Cefnogi Mudiadau’r Trydydd Sector
Mewn gofal iechyd a chymdeithasol, mae mudiadau’r trydydd sector yn rhan bwysig o daith a chynnal cleifion. Ni roddir digon o werth ar y mudiadau hyn, ond mae ganddynt ran bwysig i’w chwarae. Er mwyn cynllunio ymlaen ar gyfer eu gweithgareddau, rhaid iddynt gael sicrwydd cyllid. Byddwn yn cefnogi setliadau ariannu aml-flwyddyn lle mae hyn yn bosib ac yn briodol, fel y gall y mudiadau hyn gynllunio eu gweithgareddau yn well.