Tryloywder mewn Plismona

Fel rhan o’r symud tuag at fwy o dryloywder mewn plismona, mae Plaid Cymru yn cefnogi deddfwriaeth yn San Steffan fydd yn mynnu bod heddweision yn datgan eu haelodaeth o glybiau, cymdeithasau a mudiadau sydd yn sicrhau bod cysylltiadau y tu allan i’r gweithle yn dryloyw ac yn agored. Bydd hyn yn rhoi mwy o dryloywder a hyder mewn plismona.

Cyfiawnder Troseddol a Phlismona: darllen mwy