All y Trysorlys ddim bod yn “farnwr a rheithgor” mewn unrhyw anghydfod cyllido

Angen corff cyllido annibynnol i gael tegwch am y Gyllideb, medd Plaid Cymru

Yn dilyn arwaith yn ystod y ddadl heddiw ar Gyllideb San Steffan, mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi galw am  gorff cyllido a threthiant newydd hyd-braich i farnu ar anghydfod rhwng San Steffan a Chymru.

Dywedodd Mr Edwards fod Llywodraeth Cymru yn cael ei “ thwyllo”, a bod angen corff annibynnol i gyflafareddu ar unrhyw anghydfod am y gyllideb.

Mae annhegwch cynhenid yn Fformiwla Barnett- y mecanwaith i lywodraethau datganoledig dderbyn newidiadau cyllido ar sail gwariant yn Lloegr - yn golygu bod Cymru’n gyson wedi derbyn llai y pen na’r cenhedloedd datganoledig eraill.

Ar hyn o bryd, does dim mecanwaith swyddogol ar gael i gymodi anghydfod cyllidebol a chyllid rhwng Llywodraethau Cymru a San Steffan. Heddiw, mae anghydfod wedi codi ar fwy o bwerau benthyca, a gyhoeddwyd yn y Gyllideb, yn amodol ar i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r arian ar gyfer dewis lwybr Llywodraeth San Steffan ar gyfer ffordd liniaru’r M4.

Yn dilyn ei araith yn y Senedd, meddai Jonathan Edwards AS:

“Dyw hi ddim yn ddamwain fod y rhan am dai bach cyhoeddus wedi cymryd mwy o amser yn araith y Gyllideb na mesurau yn ymwneud â Chymru. I San Steffan, dyw Cymru’n ddim ond ôl-nodyn.

“Mae’n anodd peidio â dod i’r casgliad fod San Steffan yn ceisio dallu Cymru trwy dwyll. Gallai corff hyd-braich annibynnol newydd gyflafareddu mewn anghydfod a chreu proses Gyllideb San Steffan fyddai’n decach.

“Gyda phwerau cyllidol yn awr yn cael eu rhannu rhwng San Steffan a Chymru, fe ddaw anghydfod o’r math hwn yn fwy cyffredin ac yn fwy cymhleth. All y Trysorlys ddim bod yn farnwr ac yn rheithgor ar ganlyniadau materion cyllido.

“Mae’r anghydfod heddiw ynghylch pwerau benthyca ar gyfer ffordd liniaru’r M4 yn dangos maint y broblem. Ddylai Llywodraeth Cymru ddim ildio i ofynion blacmel San Steffan ynghylch llwybr du yr M4.  

“Allwn ni ddim caniatáu i Lywodraeth sinigaidd San Steffan dwyllo Llywodraeth Lafur hunanfodlon Cymru - pobl Cymru fydd ar eu colled.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.