Un o’r diwydiannau mwyaf o ran maint a phwysigrwydd i Gymru yw twristiaeth. Bu Cymru’n enwog ers amser maith am ei chroeso cynnes i ymwelwyr ac mae’r ystadegau’n dangos pa mor bwysig yw twristiaeth i’r wlad gyfan.
- Bydd twristiaid yn gwario tua £14 miliwn y dydd yng Nghymru, sydd yn gyfanswm o dua £5.1 biliwn y flwyddyn.
- Mae dadansoddi pellach yn dangos taw Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) blynyddol sector twristiaeth Cymru yw £2,844 miliwn, a bod y diwydiant twristiaeth yn cefnogi 122,900 o swyddi.
- 10,000 o fusnesau yn y wlad wedi eu cysylltu â’r diwydiant.
- Yn 2009, roedd cyfanswm cyfraniad y diwydiant twristiaeth yn gyfrifol am £6.2 biliwn o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) Cymru, sydd gyfwerth â 13.3%. Mae hyn yn fwy na 8.6% yn Lloegr a 10.4% yn yr Alban.
- Mae yna botensial sylweddol ar gyfer rhagor o dwf. Yn ôl rhagolwg gan Deloitte, fe allai’r economi ymwelwyr gynnal 188,000 o swyddi yng Nghymru erbyn 2020, fyddai’n 13.7% o holl gyflogaeth y wlad.
- Yn 2014, Iwerddon, Ffrainc a’r Almaen oedd ymhlith y 3 wlad tramor a gynhyrchai’r mwyaf o dwristiaeth i Gymru, a phob un ohonynt yn bartneriaid o fewn yr UE.
- O 2010 hyd 2012, roedd 58% o ymwelwyr i Wynedd a arhosodd am o leiaf un noson yn dod o wledydd Ewropeaidd, ac roed hyn yn 45% yng Nghaerdydd.
Beth yw buddion aelodaeth o’r UE?
- Mae’r UE yn ein galluogi i deithio’n rhydd drwy’r UE. Mae’r UE wedi newid y ffordd byddwn yn teithio. Mae cyfreithiau’r UE wedi arwain y fford tuag at hediadau mwy mynych a rhatach i nifer gynyddol o gyrchfannau.
- Cafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar y byddai pecyn ariannu newydd gan yr UE ar gyfer twristiaeth yng Nghymru gyda chyfanswm gwerth potensial o £85 miliwn – y buddsoddiad unigol mwyaf a wnaed gan yr UE yn y sector.
- Mae Cymru’n gweithio gyda phartneriaid yn yr UE ar strategaethau twristiaeth i gefnogi ein diwydiant.
- Mae cyfreithiau’r UE ar yr amgylchedd wedi rhoi traethau glanach i ni a gwell ansawdd aer.
- Daeth llwybr arfordirol Cymru i fodolaeth diolch i ariannu gan yr UE. Dyma’r ffordd ddi-dor cyntaf ar hyd arfordir cenedlaethol yn y byd.
Beth fyddai’n digwydd pe baem yn gadael yr UE?
- Fe allai’r aflonyddwch tymor byr fyddai’n cael ei achosi gan bleidlais i adael yr UE ein hynysu o’n partneriaid Ewropeaidd sydd eisoes yn cyflenwi cynifer o ymwelwyr a busnesau i Gymru.
- Pe bai’r DG yn gadael yr UE, byddai’n rhoi’r cysyniad o symud yn rhydd o dan amheuaeth.
- Byddai colli’r ariannu a gawn o’r UE sydd wedi bod mor hanfodol ar gyfer y diwydiant yng Nghymru yn cael effaith anferth.
Beth allwn ni ei wneud yn well o fewn yr UE?
- Dymuna Plaid Cymru weld buddsoddiad yn y diwydiant yn ehangu yn hytrach na chael ei beryglu. Er enghraifft, dymunwn weld rhan o’r Tour de France yng Nghymru.
- Mae Plaid Cymru o ddifrif ynglŷn â rhoi Cymru ar y map. Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn dybli’r gyllideb ar gyfer hybu twristiaeth.
- Byddem yn ceisio sicrhau toriad mewn TAW ar gyfer cwmnïau twristiaeth.
- Byddem yn penodi 2018 yn flwyddyn ar gyfer hyrwyddo bwyd a diod o Gymru.