Diwygio’r Drefn Taliadau Tywydd Oer

Byddai Plaid Cymru yn newid y modd mae asesiadau Taliadau Tywydd Oer yn cael eu gwneud.

Mae Taliadau Tywydd Oer yn cael eu gwneud pan fo’r tymheredd islaw’r rhewbwynt am saith diwrnod. Fodd bynnag, mae’r gorsafoedd mesur yng Nghymru yn aml yn agos at ardaloedd arfordirol a all fod yn gynhesach na’r ardaloedd mynyddig gerllaw, sy’n golygu nad yw’r poblogaethau hynny yn gymwys am y tâl.

Yr ydym yn pryderu y gall pobl fregus fod yn colli’r taliadau hyn oherwydd bod y tywydd yn eu lleoliad hwy yn sylweddol wahanol i’r ardal sy’n cael ei mesur gan y Swyddfa Dywydd.

Lles: darllen mwy