Rhaid i’r Prif Weinidog ddefnyddio ei araith cynhadledd i gyhoeddi tro pedol ar Gredyd Cynhwysol - Plaid Cymru

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi dweud heddiw (dydd Mercher 6 Hydref) mai araith cynhadledd Boris Johnson yw ei “gyfle olaf i ddod o hyd i’w gydwybod” a’i annog i “droi tro pedol ar ei gynlluniau dinistriol i dorri £20 o gyllidebau wythnosol miliynau o bobl.”

Disgwylir i'r toriad blynyddol o £1,040 i gyllidebau cartrefi sy'n derbyn Credyd Cynhwysol fynd ymlaen heddiw i ryw 275,000 o bobl yng Nghymru er gwaethaf rhybuddion eang o'r effaith niweidiol y bydd yn ei chael ar bobl sy'n byw mewn tlodi.

Beirniadodd Ms Saville Roberts “rhesymeg anonest” y Torïaid am y toriadau, ar ôl i Weinidogion amddiffyn y penderfyniad trwy honni mai mynd yn ôl i’r gwaith yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â thlodi. Tynnodd sylw at y ffaith bod 38 y cant o hawlwyr Credyd Cynhwysol o Gymru eisoes mewn gwaith a dywedodd nad oedd “unrhyw dystiolaeth bod achosi tlodi yn cymell gwaith”.

Ychwanegodd oni bai bod y Prif Weinidog yn defnyddio ei araith cynhadledd i wyrdroi ei “gynllun i dorri £286 miliwn o economïau lleol Cymru”, bydd ef a’i blaid wedi “dinistrio’r unrhyw hygrededd oedd ganddyn nhw ar yr ‘agenda codi’r gwastad’. "

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Mae gan Boris Johnson gyfle i wneud rhywbeth gwahanol heddiw. Yn hytrach na'i jôcs gwael a siarad lol arferol, gallai ddangos dewrder. Ei araith cynhadledd heddiw yw ei gyfle olaf i ddod o hyd i gydwybod gymdeithasol ac i droi tro pedol ar ei gynlluniau dinistriol i dorri £20 o gyllidebau wythnosol miliynau o bobl.

“Yn hytrach na’r nonsens arferol am yr angen i dorri Credyd Cynhwysol i annog pobl i mewn i waith, gallai gyfaddef nad oes tystiolaeth bod achosi tlodi yn cymell gwaith. Fe allai roi diwedd ar y rhesymeg anonest honno a chyfaddef bod 38 y cant o hawlwyr Credyd Cynhwysol o Gymru eisoes mewn gwaith.

“Fe allai gydnabod bod yr argyfwng costau byw yn gofyn am newid polisi - a chyhoeddi gwrthdroi ei gynllun i dorri £286 miliwn o economïau lleol Cymru. Fel arall, bydd ef a’i blaid wedi dinistrio unrhyw hygrededd a oedd ganddynt ar yr ‘agenda codi’r gwastad’.”