Uchelgais dros Gymru
Bydd Plaid Cymru yn paratoi Papur Gwyrdd ar y llwybr at annibyniaeth, ac yn creu Comisiwn Cenedlaethol. Nod y Comisiwn hwn fydd gweithio i wella iechyd ein democratiaeth, ymchwilio i’r ystod lawn ar gyfer ein dyfodol gwleidyddol ac economaidd, a dwyn dinasyddion yng Nghymru i mewn i drafodaeth gyson am y dewisiadau hyn.
Canfu’r adroddiad terfynol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y byddai Cymru annibynnol yn hyfyw, a dangosodd ymchwil blaenorol a gomisiynwyd gan Blaid Cymru y byddai diffyg ariannol Cymru adeg annibyniaeth yn £2.6bn. Ar 3% o GDP, byddai hyn yn sicr o fewn normau Ewropeaidd. Gallai Cymru annibynnol greu’r amodau ar gyfer twf economaidd gwyrdd a chynhwysol.
Bydd Plaid Cymru yn gwneud yr achos fod annibyniaeth nid yn unig yn hyfyw ond yn ddymunol, a byddwn yn dwyn pobl Cymru i mewn i’w perswadio o fanteision hyn, gan gydnabod fod y blynyddoedd diwethaf wedi dangos twf sylweddol yn nifer y bobl sy’n chwilfrydig am annibyniaeth ac wedi eu hargyhoeddi am annibyniaeth, fel y gwelwyd mewn polau piniwn a thwf gorymdeithiau annibyniaeth. Byddwn yn parhau i fynd a’r ddadl dros annibyniaeth i bob cwr o Gymru.