Uchelgais i’n Heconomi
Yn y cyfnod cyn etholiadau’r Senedd yn 2026, byddwn yn gosod targedau newydd ar gyfer economi Cymru er mwyn i ni ddeall yn well effaith penderfyniadau polisi a dewisiadau o ran buddsoddi yn ôl yr hyn sy’n deillio ohonynt, yn hytrach na thicio bocsys ar y broses.
Gan gydnabod yr anghydraddoldeb ym mherfformiad economaidd y gwahanol genhedloedd a rhanbarthau yn y DG, mae Plaid Cymru yn cynnig Mesur Tegwch Economaidd sydd yn gwneud codi’r gwastad yn ymadrodd ystyrlon, yn hytrach na slogan gwleidyddol, gan wneud yn siŵr y bydd penderfyniadau cyllidol yn cael eu hystyried ar lefel fwy eang na dim ond yr hyn sydd orau i Ddinas Llundain.
Gan gydnabod her anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru, fe wnawn yn siŵr hefyd y rhoddir yr un ystyriaeth i bob rhan o Gymru er mwyn sicrhau y bydd pawb ar eu hennill o benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar fuddsoddi.
Ymgyrchodd Plaid Cymru yn 2016 i Gymru aros yn yr Undeb Ewropeaidd, gan gydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd oedd yn deillio o’r aelodaeth honno. Yr oeddem yn parchu canlyniad y refferendwm, ond am i’r Ceidwadwyr yn ein harwain ar lwybr dinistr, credwn y dylai’r DG ail-ymuno â’r Farchnad Sengl Ewropeaidd a’r Undeb Tollau mor fuan ag sydd modd, er mwyn lliniaru effaith Brexit ar fusnesau Cymreig a gostwng gorbenion a chostau gweinyddol. Bydd hyn yn ein helpu i wella masnach gyda’n cymdogion Ewropeaidd, gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon, helpu ein porthladdoedd Cymreig yng Nghaergybi ac Abergwaun ymysg eraill.