Rwsia yw cwsmer mwyaf y DG am wraniwm diffygiol, datgelodd Plaid Cymru, gyda gwerth £1.2 miliwn o’r sylwedd graddfa-arfau wedi ei werthu i Rwsia yn 2016.
Yr oedd cyfanswm allforion y DG o wraniwm diffygiol yn 2016 yn £1.3 miliwn, gyda 92% o hyn wedi eu hallforio i Rwsia.
Mae wraniwm diffygiol yn un o isgynhyrchion wraniwm coeth, a ddefnyddir fel tanwydd mewn adweithyddion niwclear ac i gynhyrchu arfau niwclear.
Mae wraniwm diffygiol yn cael ei ddefnyddio at amrywiaeth o ddefnydd milwrol fel sylwedd dwysedd-uchel, gan gynnwys cynhyrchu bomiau ymhollti. Mae ei ddefnydd yn ddadleuol oherwydd pryderon am effeithiau posibl ar iechyd yn y tymor hir, a ddaeth i’r amlwg ers iddo gael ei ddefnyddio am y tro cyntaf yn Rhyfel y Culfor.
Mae Senedd Ewrop dro ar ôl tro wedi pasio penderfyniadau yn galw am foratoriwm ar unwaith ar y defnydd pellach o ffrwydron wraniwm diffygiol, ond mae’r DG yn gyson wedi gwrthod galwadau am waharddiad, gan fynnu bod ei ddefnyddio yn gyfreithlon, ac nad oes tystiolaeth i gefnogi’r honiadau am beryglon i iechyd.
Yn 2007, pleidleisiodd y DG yn erbyn cynnig gerbron Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i gynnal dadl yn 2009 am effeithiau arfau a ffrwydron oedd yn cynnwys wraniwm diffygiol.
Mae arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts AS, wedi galw ar i Lywodraeth y DG osod gwaharddiadau ar unwaith ar allforio sylweddau niwclear i Rwsia ar adeg pan fod tensiynau rhyngwladol ar eu huchaf.
Yn ei sylw, dywedodd arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts AS:
“Mae hyn yn ddatgeliad rhyfeddol, yng nghanol yr holl siarad dewr gan y Prif Weinidog am daro’n ôl a sancsiynau mewn ymateb i geisio lladd Sergei Skripal, Rwsia o hyd yw prif gwsmer y DG am wraniwm diffygiol peryglus a ddefnyddir mewn arfau.
“Mae ymgais i lofruddio ar dir Lloegr yn weithred ymosodol ddifrifol iawn, a rhaid i ni ymateb yn gryf i hyn. Ond mae’r datgeliad ein bod yn gwerthu gwerth miliynau o bunnoedd o sylweddau niwclear graddfa-arfau i Rwsia yn tanseilio awdurdod y Prif Weinidog ar lwyfan y byd.
“Mae arna’i ofn mawr ein bod yn dod i gyfnod peryglus iawn mewn cysylltiadau rhyngwladol lle gall y drefn yn dilyn y Rhyfel Oer ddiflannu yn sydyn. Mae pryder gwirioneddol y gallai’r byd symud yn sydyn i ail Ryfel Oer wrth i’r rhyfel rhethreg rhwng U.D.A., Rwsia a China brysuro i ras arfau beryglus arall. Y lleiaf y gallwn ni wneud yw peidio â rhoi tanwydd ar y tân.
“Mae canllawiau Llywodraeth y DG ei hun yn dweud y dylid gwerthu wraniwm diffygiol yn unig i gwsmeriaid sy’n ateb cyfres o feini prawf, gan gynnwys cwsmeriaid a all ddatgan beth fydd defnydd terfynol y sylweddol. Yn ôl cyfaddefiad Llywodraeth y DG ei hun, allwn ni ddim ymddiried yng ngwladwriaeth Rwsia.
“Er mwyn rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch ein pobl, oni ddylai Theresa May osod sancsiynau yn syth ar werthu sylweddau niwclear i Rwsia.”