“Wnawn ni ddim pleidleisio i wneud Cymru’n dlotach”, Liz Saville Roberts

Brexit_Poll_image.jpg

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi cadarnhau y bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn cytundeb honedig Boris Johnson gan ddweud na fydd ei phlaid “byth yn pleidleisio dros rywbeth sy’n gwneud Cymru’n dlotach”.

Bydd Liz Saville Roberts hefyd yn siarad yn rali Llais y Bobl yn San Steffan, lle bydd yn ail-adrodd galwadau Plaid Cymru i roi’r penderfyniad ynghylch gadael yr UE neu beidio i bleidlais gadarnhau. 

Dan fodelu Llywodraeth y DG yn 2018, byddai perthynas fwy llac gyda’r UE dan fargen debyg i Gytundeb Masnach Rydd – yr hyn y mae bargen Boris Johnson yn anelu ato – yn gweld ergyd o 5.5% i economi Cymru dros y 14 blynedd nesaf. Byddai hyn yn gweld biliynau o bunnoedd yn diflannu o economi Cymru, ac yn debygol o gostio miloedd o bunnoedd i aelwydydd Cymru o ran colli cyflogau a chodiadau mewn prisiau.

Pryder arbennig i Gymru ym margen honedig Boris Johnson yw creu ffin i lawr Môr Iwerddon, fyddai’n creu ansicrwydd enfawr a rhwystrau economaidd i borthladdoedd ac allforwyr Cymru. Ar hyn o bryd, mae dros 70% o gargo nwyddau Iwerddon yn pasio trwy Gymru. Caergybi yw porthladd rholio-ymlaen rholi-ymaith ail fwyaf y DG, ar ôl Dover.

Mae fersiwn ddiweddaraf  dull Llywodraeth Prydain o adael yr UE hefyd yn cynnwys llai o fesurau gwarchod i safonau bwyd ac amgylcheddol, gwarchod defnyddwyr a hawliau gweithwyr.

Meddai Liz Saville Roberts AS:

“Wnawn ni byth bleidleisio i wneud Cymru’n dlotach – mae mor syml â hynny.

“Tra bod Gogledd Iwerddon yn cael clustog Brexit meddal a’r dewis i bleidleisio ar eu perthynas ag Ewrop bob pedair blynedd, nid yw Cymru’n cael ei chrybwyll o gwbl yn y cannoedd o dudalennau o ddogfennau cyfreithiol.

“Bydd ein ffermwyr, allforwyr a phorthladdoedd oll yn mynd i gael eu difrodi gan y cytundeb ofnadwy hwn. All yr un AS sy’n honni cynrychioli buddiannau pobl Cymru gefnogi’r cytundeb hwn.  

“Os yw Llywodraeth Prydain mor argyhoeddedig o fanteision y fargen hon, fe ddylent ei rhoi gerbron y bobl mewn refferendwm i gadarnhau.”


Dangos 1 ymateb

  • Benjamin O'Keeffe
    published this page in Newyddion 2019-10-19 10:02:57 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.