Mae AC Plaid Cymru a’r gweinidog cysgodol dros yr amgylchedd a materion gwledig wedi rhybuddio bod Llywodraeth Cymru yn peryglu “gwthio ffermio yng Nghymru oddi ar glogwyn” yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog Lesley Griffiths y bydd y Cynllun Taliad Sylfaenol yn cael ei ddileu ar ôl 2021.
Yn lle hynny, bydd dau gynllun yn cael eu cyflwyno mewn un gydag ymgynghoriad pellach ar y cynlluniau yn cael ei lansio cyn sioe amaethyddol Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf.
Meddai Llyr Gruffydd AC a gweinidog cysgodol yr amgylchedd a materion gwledig Plaid Cymru,
“Mae'r newidiadau pellgyrhaeddol hyn yn cael eu cyflwyno mewn cyfnod o ansefydlogrwydd enfawr. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad beth fydd ein perthynas fasnachu gyda'r UE ymhen ychydig fisoedd ac nid ydynt chwaith yn gwybod pa lefel o arian y byddant yn ei dderbyn gan San Steffan i gymryd lle cymorthdalidau fferm neu CAP.
“Mae cyflwyno newidiadau o'r fath yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd ddigynsail yn risg enfawr. Mae gwneud hyn heb o leiaf elfen o sefydlogrwydd trwy daliad sylfaenol yn siwr o arwain at ganlyniadau dinistriol. Heb rhyw fath o ddiogelwch ar ffurf taliad uniongyrchol, mae Llywodraeth Cymru yn gwthio ffermio yng Nghymru oddi ar glogwyn.