Mae Plaid Cymru wedi beirniadu system “gymhleth a di-drefn” Llywodraeth Cymru o brofi am Covid-19 wrth i’r targed o gynnal 5,000 prawf y dydd erbyn yfory gael ei fethu.

Ar hyn o bryd, mae gan Gymru’r gallu i gynnal 1,300 prawf. Dim ond 678 prawf a gynhaliwyd ddoe.

Awgrymodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg heddiw fod y niferoedd isel o brofion i’w priodoli i’r ffaith nad yw rhai awdurdodau lleol yn cyfeirio staff gofal cymdeithasol ar gyfer eu profi.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd o Blaid Cymru, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ei fod “wedi rhyfeddu” clywed y Gweinidog Iechyd yn cyhuddo cynghorau o beidio â chymryd eu cwota o brofion Coronafeirws, gan awgrymu y dylai’r Gweinidog “ofyn pam” yn hytrach na “thaflu bai yn ddi-sail”.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod awdurdodau lleol wedi bod yn “crefu am drefn lawn ac effeithiol o brofi” dros y tair wythnos diwethaf, ond yr hyn a gafwyd yn hytrach oedd “system gymhleth a di-drefn” gyda “chadwyn faith o fiwrocratiaeth” a “chymhlethdodau”.

Ychwanegodd Mr Siencyn fod llawer o’r enwau a gynigiwyd yn “anghymwys” i’w profi a galwodd am i’r Gweinidog Iechyd gyflwyno “trefn brofi effeithiol a syml”.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC fod profi yng Nghymru “ymhell ar ôl” yr hyn “y gallai ac y dylai fod” a bod ffigyrau’r profion fel petaent yn “llithro’n ôl”.

Dywedodd Mr ap Iorwerth os mai “biwrocratiaeth” oedd y broblem, yna bod angen i’r Gweinidog Iechyd “gofio” fod ganddo’r “grym i dorri drwyddo” a galwodd am gynnydd rhag blaen yn y gallu ac am symleiddio’r drefn o brofi.

Meddai Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gâr a llefarydd CLlLC Emlyn Dole,

“Mae holl gynghorau Plaid Cymru wedi bod yn cyfeirio pobl i gael eu profi, ond mae’r system yn rhy gymhleth a’r gofynion a’r cyfyngiadau yn gaeth iawn.

“Er enghraifft, caniateir i bob awdurdod lleol gyfeirio pymtheg o bobl i’w profi bob dydd, ac nid yw hyn yn gymesur ag angen pob awdurdod lleol. Mae’n rhaid i bobl ddangos symptomau am bedwar diwrnod cyn y caniateir iddynt gael prawf. Mae llawer o awdurdodau lleol wedi cwyno fod eu staff yn cael eu gwrthod pan fyddant yn dod i gael eu profi am nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf.

“Petai Llywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adolygu’r meini prawf ac yn symleiddio’r system, byddai modd i ni weld llawer mwy o brofion yn cael eu cynnal.

Meddai Arweinydd Cyngor Gwynedd,  Dyfrig Siencyn o Blaid Cymru,

“Rwy’n rhyfeddu o glywed y Gweinidog Iechyd yn cyhuddo awdurdodau lleol o beidio â chymryd eu cwota o brofion Covid-19. Oni ddylai fod yn gofyn pam, yn lle taflu bai yn ddi-sail?

“Mae awdurdodau lleol wedi bod yn crefu am drefn lawn ac effeithiol o brofi i staff rheng-flaen dros y tair wythnos diwethaf. Yr hyn sydd gennym yn lle hynny yw system gymhleth a di-drefn sy’n golygu cyfeirio at y byrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Data Cymru ac awdurdodau lleol. Mae cadwyn hir o fiwrocratiaeth, cymhlethdodau a haenau cyn i’r canlyniadau ein cyrraedd.

“Ymhellach, rydym yn gweld bod llawer o’r enwau a roddir gerbron ar gyfer profi yn anghymwys am resymau sy’n anodd eu deall. Mr Gething, gyda phob dyledus barch - mae arnom angen trefn effeithiol a syml fyddai’n caniatáu i weithwyr allweddol ddychwelyd i weithio. Peidiwch â thaflu bai ar eraill am eich diffygion eich hun, ac ewch i’r afael â’r dasg bwysig mewn llaw. Proses brofi syml, fel y gallwn weithio fel un i ddileu’r clefyd marwol hwn.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC,

“Ar Fawrth 21, dywedwyd wrthym fod 800 prawf yn cael eu cynnal bob dydd yng Nghymru, ac y byddai’r ffigwr hwnnw yn codi i 8000 erbyn Ebrill 7.  Ddoe, dim ond 678 o brofion a gynhaliwyd.

“Roedd y cyfanswm yng Nghymru i fod yn fwy na 100,000.  Yn lle hynny, y ffigwr yw 21169.

“Do, fe aeth cytundeb i’r wal, ac yr oedd awgrym fod y gallu i brofi wedi ei ddwyn oddi ar Lywodraeth Cymru, ond hyd yn oed wedyn, mae hyn ymhell y tu ôl i’r hyn y gallai ac y dylai fod, ac yn wir lle mae angen i ni fod er mwyn medru ymdopi â’r argyfwng. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud dro ar ôl tro mai profi yw ‘asgwrn cefn’ y frwydr yn erbyn coronafeirws.

“Dro ar ôl tro, maen nhw’n dweud ‘mi fydd pethau’n iawn, rydym yn cynyddu capasiti yn raddol’.  Ond nid yn unig y mae ffigyrau’r profion yn  peidio â chynyddu, ond maent fel petaent yn mynd tuag yn ôl.

“Os mai biwrocratiaeth yw’r broblem i’r Gweinidog Iechyd fel y mae’n awgrymu, yna mae angen iddo gofio fod ganddo’r grym i dorri drwyddo. Nid yw gweithwyr allweddol yn cael eu profi. Mae profion yn cymryd gormod o amser i ddod yn ôl. Mae angen i ni gynyddu capasiti fel mater o frys, a symleiddio’r system brofi.”