Byddai plismona Cymru yn elwa o ddifidend datganoli, medd Plaid Cymru

WhatsApp_Image_2019-01-16_at_1.48.54_PM_(1).jpeg

Bydd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, yn galw am ddatganoli plismona i Gymru mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

Bydd Mr Edwards yn dadlau y byddai datganoli nid yn unig yn caniatáu gweithredu polisïau mwy addas i Gymru, ond hefyd yn rhoi hwb ariannol i heddluoedd Cymru fyddai’n werth miliynau o bunnoedd.

Petai plismona’n cael ei ddatganoli i Gymru ac yn cael ei gyllido ar sail poblogaeth - fel sy’n digwydd gyda meysydd polisi eraill - byddai heddluoedd Cymru yn derbyn hyd at £20 miliwn yn fwy y flwyddyn, na than reolaeth San Steffan fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Mae plismona eisoes wedi ei ddatganoli i’r Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r unig ddeddfwrfa ddatganoledig heb unrhyw reolaeth dros heddluoedd ei chenedl. Mae elfennau sylweddol o bolisi plismona hefyd wedi eu datganoli i Faer Llundain.

Oherwydd toriadau San Steffan, gorfodir Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru i godi trethi lleol er mwyn cyflwyno  gwasanaethau hanfodol. Dengys data fod heddluoedd Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, dan anfantais arbennig. Bydd Mr Edwards yn dweud “unwaith eto, mae San Steffan yn rhoi’r baich ar Gymru wledig i dalu am drefi Lloegr”.

Mae 500 o heddweision ar y strydoedd yng Nghymru ers i’r Ceidwadwyr ddod i rym gyntaf, oherwydd toriadau i gyllidebau.

Bydd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys hefyd yn ymosod ar Lafur am eu “hawydd cyson i osgoi cyfrifoldeb” sydd wedi golygu nad ydynt wedi eiriol yn gryf dros ddatganoli plismona.

Wrth siarad cyn y ddadl yn San Steffan, dywedodd Jonathan Edwards AS:

“Dyma lywodraeth llanast a thrychineb yn chwarae gemau gyda’n system o gyfraith a threfn. 500 o heddweision yn llai ar strydoedd Cymru diolch i doriadau San Steffan i gyllidebau. Allwn ni ddim fforddio gadael i hyn barhau.

“Gall Llywodraeth San Steffan ddod o hyd i biliwn o bunnoedd am fargen amheus gyda’r DUP i aros mewn grym, a’r wythnos ddiwethaf dyma ni’n cael ar ddeall fod y Llywodraeth wedi cynnig prynu pleidleisiau Brexit yn y dadleuon seneddol fydd yn digwydd gan ASau Llafur. Miliynau, biliynau o bosib, yn cael eu cynnig i ASau Llafur i gefnogi bargen y gwyddant fydd yn gadael eu hetholwyr yn dlotach. Ond maent yn parhau i honni fod cyllido ein gwasanaethau heddlu yn iawn yn amhosib.

“Y gwir yw nad yw Cymru o bwys i San Steffan.

“Mae’r arian i dalu am ein gwasanaethau cyhoeddus yno: yr ewyllys wleidyddol sydd ar goll. Mae’n bryd i ni gymryd rheolaeth, a chreu system o gyfiawnder troseddol i Gymru, yng Nghymru.

“Dengys y ffigyrau diweddaraf, petai plismona yn cael ei ddatganoli i Gymru ac yn cael ei gyllido ar sail poblogaeth – fel sy’n digwydd gyda gwasanaethau eraill – byddai heddluoedd yng Nghymru yn well eu byd o £20 miliwn y flwyddyn.

“Mae hynny’n gyfystyr â channoedd yn fwy o heddweision allai fod ar ein strydoedd yfory, petai Cymru’n cael ei thrin yn gyfartal.

“Mae angen i Lafur roi’r gorau i osgoi eu cyfrifoldeb, a rhoi eu pwysau y tu ôl i’n galwadau am ddatganoli plismona.

“Mae’n bryd i heddluoedd Cymru gael y gefnogaeth maent yn ei haeddu ac y mae ein cymunedau’n ei fynnu.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.