Cyn-filwyr Cymreig wedi cael tro gwael gan ddwy lywodraeth, medd arweinydd y Blaid yn San Steffan

22521492905_e8bbdcc62c_k.jpg

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi dweud fod cyn-filwyr Cymreig yn dioddef tro gwael gan lywodraeth Cymru a San Steffan fel ei gilydd.


Ym mis Medi, datgelodd Plaid Cymru fod ystadegau yn dangos, ar draws y DG, fod 66,000 o gyn-aelodau’r lluoedd arfog naill ai yn ddigartref, yn y system gyfiawnder neu’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl. Dengys y wybodaeth a gafwyd trwy gyfuniad o gwestiynau seneddol ac ymchwil o elusennau milwrol ac ymchwil academaidd fod cyn-aelodau’r lluoedd arfog yn cael eu siomi gan Lywodraeth San Steffan, a’u bod wedi eu cynrychioli’n anghymesur o gymharu â’r cyhoedd yn gyffredinol o ran ystadegau digartrefedd, iechyd meddwl a’r system gyfiawnder.

Mae Ms Saville Roberts hefyd wedi ymgyrchu dros i ofal preswyl i gyn-filwyr fod ar gael yng Nghymru. Ar hyn o bryd, does dim cyfleusterau triniaeth breswyl i gyn-filwyr yng Nghymru. Cyhoeddodd yr unig gyfleuster sy’n hawdd ei gyrraedd, Audley Court yn Swydd Amwythig, ar ddiwedd 2017 y byddai’n rhoi’r gorau i gynnig triniaethau preswyl.

Mae AS Dwyfor Meirionnydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “roi ei arian lle mae ei eiriau” a thalu am gyfleusterau triniaeth breswyl i gyn-filwyr, oherwydd y profwyd bod hyn wedi cael effeithiau sylweddol ar drin materion iechyd meddwl a helpu cyn-filwyr i fyw bywydau buddiol yn dilyn gwasanaeth milwrol.

Dywedodd Liz Saville Roberts, fydd yn cynrychioli Plaid Cymru wrth y Cenotaph yn Llundain heddiw:

“Heddiw byddwn yn cofio’r aberth a wnaed gan gymaint er mwyn i ni fod yma heddiw. Fydd eu gwaddol fyth yn mynd ar goll mewn hanes, ac ni ddylid fyth tanbrisio eu haberth.

“Nid dim ond trwy eiriau yw’r ffordd orau i anrhydeddu’r coffa amdanynt - mae arnom angen gweithredoedd hefyd. Gweithredoedd fel bod dynion a merched yn y lluoedd arfog heddiw yn cael eu trin gyda’r urddas a’r parch maent yn haeddu.

“Mae’n frawychus, yn yr unfed ganrif ar hugain ym Mhrydain, fod 66,000 o gyn-filwyr naill ai’n ddigartref, yn y system gyfiawnder neu’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl. Efallai na fyddwn yn anghofio’r sawl a roes eu bywydau, ond i gyn-filwyr sy’n dioddef heddiw, mater ydyw o ‘yr hyn na wêl y llygad, ni thralloda’r galon’.

“Heb gyfleusterau gofal preswyl i gyn-filwyr yng nghymru, a’r cyfleuster diwethaf o fewn pellter rhesymol dros y ffin yn cau, mae angen i Lywodraeth Cymru roi eu harian lle mae eu geiriau a buddsoddi yn y gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau cyn-filwyr.

“Yn y bôn, mae cyn-filwyr Cymru yn cael tro gwael gan lywodraethau yng Nghaerdydd a Llundain.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.