Cynllun Torïaidd i leihau nifer ASau Cymru wrth 20% wedi'i feirniadu gan Blaid Cymru

Heddiw (dydd Mercher 8 Medi) mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi disgrifio cynllun Llywodraeth y DU i leihau nifer ASau Cymreig o 40 i 32 fel “y cam diweddaraf ar lwybr y Torïaid i gipio rheolaeth yn ôl i San Steffan”.

Heddiw mae Comisiwn Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi eu cynigion cychwynnol ar gyfer newidiadau ffiniau ar gyfer etholiadau San Steffan, a fydd yn agor i ymgynghori tan fis Tachwedd.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Newid ffiniau etholaethau yw’r camau diweddaraf ar lwybr y Torïaid i gipio rheolaeth yn ôl i San Steffan a lleihau llais democrataidd Cymru.

“Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r Torïaid wedi cyflwyno newidiadau i drefniadau etholiadol sy’n ceisio tynhau eu gafael ar bŵer. O ddifreinio pobl iau a lleiafrifoedd trwy fandadu ID pleidleisiwr, i leihau cynrychiolaeth Cymru yn San Steffan wrth 20% - nid yw San Steffan yn cynnig llawer mwy na ffug ddemocratiaeth.

“Mae gan bobl Cymru ddewis: derbyn ymosodiad diweddaraf San Steffan neu gymryd llwybr gwahanol gyda democratiaeth wirioneddol gynrychioliadol, gyfranogol ac agored mewn Cymru annibynnol.”