Wiliam Rees

Ymgeisydd Canol Caerdydd

Wiliam Rees - Canol Caerdydd

Gwefan Facebook Twitter Instagram

Soniwch amdanoch eich hun

Wil ydw i. Rwy’n 22 oed, wedi graddio o Brifysgol Caerdydd, ac yn gyn-Lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd. Symudiad i Gaerdydd i astudio, ac aros yma. Rwyf nawr yn gweithio fel Ymchwilydd Polisi a Swyddog Cyfathrebu Digidol.

Rwy’n dod o deulu Llafur. Yr oedd fy nhad-cu yn Gynghorydd Sir Llafur a bu ‘nhad yn gweithio yn y mudiad Undebau Llafur am y rhan fwyaf o’i fywyd. Fodd bynnag, fe benderfynais i dorri cwys newydd. Rwy’n Gymro balch, a sylweddolais nad oedd Llafur yn cynrychioli buddiannau pobl Cymru, gyda Llafur yn fodlon i weld gostwng safonau economaidd, addysgiadol ac iechyd Cymru.

Euthum i mewn i wleidyddiaeth am fy mod eisiau sefyll dros Gymru flaengar ac arloesol. Mae hyn yn bwysicach nac erioed yn awr, o gofio’r cyfan yr aethom drwyddo dros y blynyddoedd diwethaf.

Ar wahân i’r gwaith, rwyf wrth fy modd yn darllen. Rwyf hefyd yn mwynhau mynd am dro a rhedeg ym mannau gwyrdd Caerdydd, yn enwedig Parc y Rhath ar fore Sul.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Rhaid i ni ail-godi Caerdydd a Chymru fwy cyfiawn, teg a ffyniannus. Yn ganolog i hynny, mae mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Bydd hyn yn golygu dadgarboneiddio, adfer bioamrywiaeth ac adeiladu seilwaith addas i dechnoleg y dyfodol. I Blaid Cymru, mae ‘troi’n wyrdd’ hefyd yn golygu cynnig swyddi da gyda thal a sgiliau da, pobl iachach wrth i ni lanhau’r aer ac ail-gysylltu a natur, trafnidiaeth y gallwn ddibynnu arno, economi lleol sy’n ffynnu, a rhannu gwerth ein mannau agored gwyrdd sydd mor gyfoethog.

Beth wnewch chi dros Ganol Caerdydd petaech yn cael eich ethol?

Taclo tlodi. Mae dros 25,000 o blant yn ein prifddinas yn byw mewn tlodi, er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi addo dileu tlodi plant erbyn 2020. Allwn ni ddim bodloni â’r hen drefn gyda’r un hen syniadau gan lywodraeth fu mewn grym ers 20 mlynedd. Mae Plaid Cymru yn gwybod mai’r ffordd orau i daclo hyn fyddai ehangu’r meini prawf cymhwyster am brydau ysgol am ddim, ac eto, yn y Senedd, pleidleisiodd Llafur Cymru yn erbyn ein cynigion ni sawl gwaith. Mae Caerdydd yn haeddu gwell.