Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Fusnes, yr Economi a Chyllid, Adam Price AC, wedi croesawu cynnydd gydag ymgyrch ei blaid i ddod ag Expo’r Byd pwysig i Gymru yn y 10-15 blynedd nesaf.
Yn dilyn ei gwestiwn i’r Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf, mae Adam Price AC heddiw wedi sicrhau ymrwymiad gan Ysgrifennydd Cabinet yr Economi a Seilwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych i mewn i gais ar i Gymru groesawu’r digwyddiad a allasai ddod â’r budd economaidd mwyaf i Gymru mewn cenhedlaeth.
Mae Expos Byd, a adwaenir hefyd fel Ffeiriau Byd, yn ddigwyddiadau cenedlaethol sy’n cael eu cynnal gan ddinas ddethol. Gwahoddir gwledydd, cwmnïau, sefydliadau rhyngwladol a chymdeithas sifil i gymryd rhan trwy godi pafiliynau a threfnu digwyddiadau.
Cynhelir digwyddiadau o’r fath bob 5 mlynedd ac y maent yn para hyd at chwe mis. Maent yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol ac yn denu degau o filiynau o ymwelwyr, gan gynnwys penaethaid gwladwriaethau a llywodraethau. Cynhelir Expos Byd llai yn y blynyddoedd rhyngddynt ac y maent yn agored i’r cyhoedd am dri mis.
Dywedodd AC Plaid Cymru fod cadarnhad yr Ysgrifennydd Cabinet fod ei swyddogion wrthi yn ymchwilio i fid i’w groesawu, ac mai dyma’r cam cyntaf mewn prosiect mawr o werthu Cymru i’r byd.
Adleisiodd ei gyd-AC Plaid Cymru, Steffan Lewis, sylwadau Adam Price, gan bwysleisio y byddai Cymru gyfan yn elwa yn economaidd petai’r bid yn llwyddiannus.
Meddai Adam Price AC:
“Pan holais y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf, yr oedd yn arwydd o uchelgais Plaid Cymru i arddangos Cymru i gynulleidfa fyd-eang, gan ddenu ymwelwyr a phenaethiaid gwladwriaethau o bedwar ban byd.
“Yr oedd ymateb y Prif Weinidog yn galonogol, ond mae cadarnhad gan yr Ysgrifennydd Cabinet fod ei swyddogion wrthi yn ymchwilio i fid i’w groesawu yn fawr.
“Gall y ddau gategori o Expo Byd fod yn gatalyddion i adfywio ar raddfa fawr ac y mae ganddynt y potensial i ddod â’r budd economaidd mwyaf i Gymru am genhedlaeth.
“Mae’r cadarnhad gan Lywodraeth Cymru yn siambr y Cynulliad heddiw yn gam cyntaf mewn prosiect mawr o werthu Cymru i’r byd. Yr wyf wrth fy modd gyda’r ffordd yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r achos cadarnhaol a wnaeth Plaid Cymru dros groesawu’r digwyddiad byd-eang hwn.”
Ychwanegodd AC Plaid Cymru dros Ddwyrain de Cymru, Steffan Lewis:
“Mae cadarnhad yr Ysgrifennydd Cabinet fod Llywodraeth Cymru wrthi yn ymchwilio i fid am Expo’r Byd yn galonogol.
“Gallai hwn fod yn gyfle unwaith mewn oes, ac o’r herwydd, dylid cael budd i Gymru gyfan o’r digwyddiad pwysig hwn.
“Byddai bid llwyddiannus yn gweld Cymru gyfan yn mwynhau’r amryfal fanteision o’r digwyddiad ei hun ei hun, heb sôn am y waddol y gallwn ei sicrhau i’n heconomïau lleol.”