Wythnos pedwar diwrnod gyda “manteision” honna Plaid Cymru
“Mae angen meddwl yn radical am yr effeithiau ar ôl y pandemig, ond chwyldro cyn-awtomeiddio – gallai Cymru arwain y ffordd” – Luke Fletcher AS
Mae Plaid Cymru wedi galw am ddull radical newydd o ymdrin â'r ffordd yr ydym yn gweithio, a fyddai'n cynyddu amser rhydd gweithwyr, ac ar yr un pryd yn diogelu economi Cymru’r dyfodol.
Dywedodd Luke Fletcher AS, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, petai modd rhannu ‘buddion’ awtomeiddio dros ystod o gymdeithas ynghyd â chyflwyno wythnos pedwar diwrnod, yna byddai hyn yn gallu “diogelu economi Cymru yn y dyfodol”.
Yn ogystal â manteision economaidd, gallai wythnos waith pedwar diwrnod wella lles gweithwyr, lleihau ôl troed carbon yn sgil llai o bobl yn teithio i’r gwaith, a chreu cyfleoedd i ganiatau pobl i wirfoddoli a chyfrannu at eu cymunedau mewn gwahanol ffyrdd. Byddai'r diwrnod ychwanegol yn helpu i gydbwyso baich gwaith di-dâl – fel gofalu a chadw tŷ – sy'n aml yn disgyn ar fenywod, hefyd.
Ar Ddydd Mercher 22 Medi, bydd Plaid Cymru yn arwain dadl yn y Senedd, gan alw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.
Mae cynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod eisoes wedi'i dreialu yng Ngwlad yr Iâ, lle barnwyd ei fod yn "lwyddiant ysgubol". Yn y cyfamser mae treialon yn cael eu cynllunio yn yr Alban, Sbaen ac Iwerddon.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr economi, Luke Fletcher AS,
“Byddai wythnos pedwar diwrnod yn gweld sawl mantais: Byddai’n dda i les pobl, byddai’n dda i'r economi, byddai’n dda i'r amgylchedd a byddai’n dda i'n cymunedau.
“Mae COVID-19 wedi newid ein harferion gwaith ac wedi taflu goleuni ar yr anghydraddoldebau yn ein cymdeithas, yn enwedig baich gwaith di-dâl sy’n disgyn fwyaf ar fenywod. Gallai rhyddhau diwrnod ychwanegol helpu i symud y cydbwysedd, ac mae hefyd yn creu cyfleoedd i bobl ymwneud mwy a’u cymunedau lleol. Byddai'n lleihau ein hôl troed carbon hefyd - gyda un diwrnod yn llai yn cael ei dreulio yn teithio i'r gwaith.
“Cuddio yn y cefndir yw'r bygythiad deuol a'r addewid o awtomeiddio – y cyfle i ryddhau gweithwyr o oriau hir, wedi'u gosod yn erbyn ofn diswyddiadau torfol wrth i bobl gael eu disodli gan beiriannau. Gallai wythnos waith pedwar diwrnod ddiogelu economi Cymru yn y dyfodol, cyn belled â bod yr enillion cynhyrchiant o ddatblygiadau mewn awtomeiddio, a'r amser a arbedir gan weithwyr, yn cael ei rannu ar draws ein cymdeithas.
“Os ydym am ddiogelu economi Cymru yn y dyfodol, mae arnom angen atebion polisi arloesol a blaengar, a gallai cynnig Plaid Cymru am wythnos pedwar diwrnod weld Cymru'n arwain y byd mewn newid paradeim diwylliannol a allai ddod â manteision i bawb.”