Mae uwch-ymgynghorydd yn Ysbyty Glangwili Caerfyrddin a chwmni o Rydaman wedi cynllunio dyfais i helpu cleifion Covid-19 mewn ysbytai i anadlu.

Dyfeisiodd y Dr Rhys Thomas, anesthetydd ymgynghorol, y peiriant ar sail ei brofiad helaeth fel milwr ac mewn bywyd sifil mewn anesthetig a dadebru a chyngor gan feddygon dewr sy’n brwydro yn erbyn Covid-19 yn Bergamo, yr Eidal.

Yn dilyn pryderon ynghylch y diffyg peiriannau anadlu mewn unedau gofal dwys i ymdopi â phandemig Covid-19, gofynnodd arweinydd Plaid Cymru  Adam Price i’r Dr Thomas geisio creu “dyfais symlach ond a allai fod yr un mor effeithiol”  fyddai modd ei fás-gynhyrchu i gwrdd â’r galw.

Defnyddiwyd peiriant CPAP yn llwyddiannus i drin claf oedd â Covid-19 yn Llanelli nos Sadwrn, ac y mae’r claf bellach yn “dod ato’i hun yn dda”.

Gall y peiriant hefyd “lanhau gronynnau feirol o ystafell” a chyflenwi aer puredig yn unig i’r claf Covid-19. Mae hyn yn galluogi’r claf i “ofalu amdano’i hun” gan ryddhau nyrsys arbenigol i wneud dyletswyddau eraill.

Canmolodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price bawb oedd yn rhan o gynhyrchu’r ddyfais i achub bywydau sy’n gosod Cymru yn rheng flaen y frwydr yn erbyn Covid-19.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru ac Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr fod cynhyrchu’r ddyfais yn “enghraifft ysblennydd o gydweithredu ar ei orau”. Dywedodd Mr Price ei fod yn dangos fod Cymru yn genedl lle gall “pethau gael eu gwneud yn sydyn wrth i ni wynebu her fwyaf ein cenhedlaeth.”

Ychwanegodd Jonathan Edwards AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei fod yn enghraifft o’r hyn “y gallwn lwyddo i’w wneud fel cenedl” gydag “arweinyddiaeth wleidyddol sydyn”.

Rhoddwyd caniatâd i gynhyrchu’r ddyfais hon, a elwir yn Beiriant Anadlu Argyfwng Covid, gan Lywodraeth Cymru. Mae modd gwneud can o’r peiriannau anadlu hyn bob dydd i arbed niferoedd uchel o fywydau. 

Meddai’r anesthetydd ymgynghorol y Dr Rhys Thomas,

“Roeddwn yn pryderu’n enbyd am y diffyg peiriannau anadlu mewn unedau gofal dwys (UGD) i ymdrin â’r pandemig anorfod.

“Wythnos yn ôl, heriodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price fi i feddwl am ddyfais oed dyn symlach ond a allai fod yr un mor effeithiol, a rhoes fi mewn cysylltiad â Maurice Clark o CR Clark Betws, Rhydaman – cwmni peirianyddol sy’n arbenigo mewn cyfarpar Thermoffurfio a Gwneuthuriad Plastig. 

“Ar ôl dylunio, adeiladu a rhoi prawf ar sawl prototeip mewn dim ond tri diwrnod, fe wnaethom ddyfais oedd yn gweithio’n berffaith. Mae’n syml ac yn wydn, ac wedi ei ddylunio’n unswydd i weithio yn erbyn y firws Covid mewn amgylchedd heintus.

“Er na fydd yn cymryd lle peiriant anadlu UGD, ni fydd ar y rhan fwyaf o gleifion angen gofal dwys os cânt eu trin â’r peiriant anadlu hwn yn gyntaf, fydd yn rhyddhau peiriannau anadlu UGD ar gyfer achosion Covid-19 mwy difrifol ac achosion meddygol cyffredinol eraill.

“Mae manteision eraill i’r peiriant, gan ei fod yn glanhau gronynnau feirol o ystafell ac yn cyflenwi aer puredig yn unig i gleifion. Gall y claf ofalu amdano’i hun gan na fydd angen nyrsys arbenigol, gan eu rhyddhau ar gyfer dyletswyddau eraill.”

“Ar nos Sadwrn, fe wnaethom ddefnyddio’r CPAP i drin claf Covid-19 . Yr oedd y treial yn llwyddiannus ac yr wyf yn falch iawn o allu dweud  fod y claf yn dod ato’i hun yn dda.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru a’r Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Adam Price,

“Mae hyn yn llwyddiant rhyfeddol. Alla’i ddim canmol gormod ar y Dr Rhys Thomas am ei fedr, ei staff ymroddedig yn ysbyty Glangwili a roes brawf ar y ddyfais, yn ogystal â CR Clark & Co am ymateb mor sydyn. Mae’n wych fod gennym y fath arbenigedd yn Sir Gâr i greu a chyflwyno’r ddyfais newydd hon ar raddfa mor fawr ar rybudd mor fyr.

“Rhaid i mi hefyd ganmol Llywodraeth Cymru am eu hyder yng ngallu Dr Rhys trwy roi caniatâd yn syth i gynhyrchu ei ddyfais yn syth, gan y gallai achub bywydau.

“Dyma enghraifft eithriadol o gydweithredu ar ei orau. Mae’n dangos y gall Cymru, fel cenedl fechan, wneud pethau yn sydyn wrth i ni wynebu her fwyaf ein cenhedlaeth.

Ychwanegodd Jonathan Edwards AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr,

“Mae hyn yn dangos yr hyn y gallwn wneud fel cenedl gydag arweinyddiaeth wleidyddol sydyn.

“Pan fydd yr argyfwng hwn drosodd, gobeithio y bydd Rhydaman, Sir Gâr a Chymru yn cael eu crybwyll gydag anrhydedd fel esiampl o sut y daeth pobl at ei gilydd i gwrdd ag un o’r heriau mwyaf a wynebwyd gan ddynoliaeth ers canrif.”