Ymchwiliad Covid i Gymru

Mae’n hollbwysig fod Cymru yn deall y penderfyniadau a wnaed yn ystod pandemig Covid er mwyn i ni fod mewn gwell sefyllfa i baratoi am unrhyw ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol. Credwn y dylai fod gan Gymru y pwerau i wneud ei phenderfyniadau ei hun, ac y dylid dal ein llywodraeth i gyfrif am ddefnyddio’r pwerau hynny. Felly, dylid cael Ymchwiliad penodol yng Nghymru i Covid, gan nad oes modd ystyried penderfyniadau Llywodraeth Lafur Cymru a’u heffeithiau ar gymdeithas ddinesig Cymreig yn ddigon manwl gan ymchwiliad ar lefel y DG. Dylai Llywodraeth Cymru weithio ynghyd â Llywodraeth y DG i sicrhau eu bod yn barotach ar gyfer y dyfodol.

Yn yr un modd, yr ydym yn cydnabod fod Covid Hir wedi effeithio ar lawer o bobl oherwydd y salwch, ac y dylid darparu’r gefnogaeth briodol.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: darllen mwy