Plaid Cymru yn parhau i ddringo'r polau piniwn

Mae pôl piniwn a’i cyhoeddwyd heddiw wedi dangos Plaid Cymru yn cynyddu eu cefnogaeth eto.

Yn ôl pôl YouGov, mae Plaid Cymru yn parhau i agosáu at Lafur mewn cefnogaeth a bod dod yn Llywodraeth Cymru nawr o fewn cyrhaeddiad i’r Blaid.

Mewn etholiad Prydeinig, mae’r pôl yn rhagweld Plaid Cymru yn ennill 5 sedd, y nifer mwyaf yn hanes y Blaid.

Mewn ymateb i ganlyniadau pôl piniwn YouGov heddiw, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru:

“Dyma bôl piniwn arall sydd wedi cynhyrchu canlyniadau addawol i Blaid Cymru. Byddai’r rhagolygon hyn yn golygu ein canlyniad cryfaf ers 2003 yn y Senedd a’n canlyniad gorau erioed yn San Steffan.

“Rydym yn credu ein bod ar ein ffordd i ffurfio llywodraeth gydag Adam Price fel Prif Weinidog. Mae momentwm gyda ni ac rydym yn benderfynol o barhau i siarad â phobl mewn pob cymuned yng Nghymru a’u dod â nhw gyda ni ar y daith gyffrous hon at Gymru Newydd.

“Mae’n glir fod pobl ar draws Cymru yn awchus am newid. Maen nhw wedi blino o gael eu siomi gan fethiannau ac anallu Llafur a’r Torïaid. Ond drwy Blaid Cymru, mae pobl ymhob cornel o Gymru yn teimlo gobaith am well ddyfodol i’n cenedl.”

Mae Plaid Cymru ar y ffordd tuag at ennill Cymru Newydd. Ymunwch ar ein taith gan glicio yma.

Canlyniadau San Steffan:

Llafur: 33% (-2)
Ceidwadwyr: 26% (-3)
Plaid Cymru: 15% (+1)
Change UK: 9% (+9)

Dem Rhydd: 7% (+1)
Brexit Party: 4% (+4)

UKIP: 3% (-3)
Eraill: 3% (-5)

Llafur: 23 seats
Ceidwadwyr: 12 seats
Plaid Cymru: 5 seats

Canlyniadau Cynulliad:

(Etholaeth)

Llafur: 31% (-1)
Plaid Cymru: 24% (+1)
Ceidwadwyr: 23% (-3)

UKIP: 7% (no change)
Dem Rhydd: 6% (-2)

Change UK: 4% (+4)

Eraill: 6% (+1)

(Rhanbarth)

Llafur: 28% (-1)
Plaid Cymru: 22% (-1)
Ceidwadwyr: 20% (-4)

Brexit Party: 6% (+6)

Dem Rhydd: 5% (-1)
UKIP: 5% (-1)

Change UK: 5% (+5)
Gwyrddion: 3% (-1)
Abolish the Assembly: 3% (-1)
Eraill: 2% (-2)

(Seddau)

Llafur: 23 seats (21 constituency, 2 regional)
Plaid Cymru: 16 seats (10 constituency, 6 regional)

Ceidwadwyr: 15 seats (8 constituency, 7 regional)
Brexit Party: 4 seats (4 regional)
Dem Rhydd: 1 seat (1 constituency)
UKIP: 1 seats (1 regional)

YouGov interviewed a nationally representative sample of 1,025 adults in Wales online between 2-5 April 2019.

Cliciwch yma i ddarllen ymhellach.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.