Dros y flwyddyn ddiwethaf, buom wrthi yn gosod y sylfeini ar gyfer ein hetholiad gorau erioed am y Senedd.
Allwn ni ddim gobeithio ethol Llywodraeth Cymru Plaid Cymru heb eich help chi.
Cyfranna nawr:
Er mwyn i ni wireddu ein breuddwyd oes o ffurfio Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf a fydd o blaid annibyniaeth, rydym yn gofyn unwaith eto am eich cefnogaeth.
Yr wythnos hon, rydym yn lansio ein hymgyrch godi arian “21 i 21”, gyda’r nod penodol o godi arian ar gyfer yr etholiad mis Mai nesaf. Gyda’ch help chi, gallwn gael y canlyniad gorau yn etholiad y Senedd yn hanes ein Plaid. Gofynnwn yn garedig i chi ystyried cyfrannu at yr ymgyrch hon heddiw.