Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo'r blaid Lafur o beidio gwrando ar y sector amaeth wrth i ddwy bleidlais fawr yn y Senedd ddisgyn o drwch blewyn nos Fercher.

Roedd y galwadau wedi dod wrth i filoedd o brotestwyr ddod i Fae Caerdydd i brotestio yn erbyn cynlluniau cymhorthdal amgylcheddol newydd llywodraeth Lafur Cymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Gwledig Llyr Gruffydd y byddai ei blaid yn parhau i wneud “popeth o fewn ein gallu” i sicrhau cynllun cymorth yn y dyfodol sy’n “gweithio i bawb”.

Mae ffermwyr wedi bod yn gwrthwynebu ailwampio cymorthdaliadau fferm yn sylweddol, wedi'i frandio'n "anymarferol" gan undebau.

Byddai'r cynigion yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr ymrwymo 10% o dir amaethyddol i'w ddefnyddio ar gyfer coed a 10% arall ar gyfer cynefinoedd bywyd gwyllt.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod tua 3,000 o bobl wedi cyrraedd y Senedd.

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Gwledig Llyr Gruffydd MS,

“Mae Plaid Cymru yn falch o sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda miloedd o ffermwyr o bob rhan o Gymru i fynnu tegwch a dyfodol cynaliadwy i’r fferm deuluol Gymreig. Fe wnaethom gefnogi’r cynnig heddiw i’r Llywodraeth gymryd cam yn ôl ac adolygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy fel y gellir datblygu dull amgen sy’n gweithio i ffermwyr a’r amgylchedd. Fe wnaethom bleidleisio o blaid gweithredu i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg. Ac fe wnaethom bleidleisio dros ddyfodol gwell i’n cymunedau gwledig.

 “Mae’n hynod siomedig, er gwaethaf cryfder teimlad amlwg sector dan warchae, nad yw Llafur yn gwrando o hyd. Mae ein galwad am saib yn y broses i adolygu’r polisi arfaethedig yn amlwg wedi disgyn ar glustiau byddar.

 “Bydd Plaid Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cynllun cymorth yn y dyfodol sy’n gweithio i bawb. Byddwn hefyd yn parhau i fynnu agwedd fwy cymesur at y rheoliadau NVZ ac am fesurau i fynd i’r afael â TB buchol mewn bywyd gwyllt.

 “Yn y cyfamser, rydym yn annog pawb i ymateb i’r ymgynghoriad parhaus ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i adael y llywodraeth yn ddiamau nad yw’r cynigion presennol yn cyflawni uchelgeisiau Cymru o ran newid yn yr hinsawdd mewn ffordd sydd hefyd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n ffermydd teuluol. .”