Sut y gallwch chi helpu i sicrhau y bydd llais Cymru yn cael ei glywed i'r dyfodol?

Ers bron i ganrif, bu Plaid Cymru yn brwydro'n ddiflino dros fuddiannau Cymru. Mae ein haelodau, ymgyrchwyr a gwleidyddion wedi ymdrechu i sicrhau bod llais Cymru'n cael ei glywed a'i barchu. Yr ydym yn dibynnu yn gyfan gwbl ar ewyllys da a chefnogaeth ariannol ein haelodau a'n cefnogwyr i allu gwneud y gwaith hollbwysig hwn dros ein gwlad.

Gallwch helpu i sicrhau y bydd llais Cymru wastad yn cael ei glywed trwy adael rhodd i Blaid Cymru yn eich ewyllys. Ar ôl gofalu am anghenion eich anwyliaid ac os bydd eich amgylchiadau ariannol yn caniatáu, a fyddwch cystal ag ystyried gadael naill ai anrheg neu ganran fechan o'ch stad i Blaid Cymru fel bod ein cenhadaeth i rymuso Cymru yn mynd o nerth i nerth. Wrth wneud hynny, byddwch yn helpu Plaid Cymru i gynnal a datblygu ein huchelgais dros ddyfodol ein cenedl.

Bydd eich rhodd arbennig yn ein helpu i gwrdd â phob her i hawl ein cenedl i bennu ei dyfodol ei hun.


Sut galla'i adael rhodd i Blaid Cymru?

Rhan o'ch stad (rhodd weddilliol)

Canran o'ch stad yw rhodd weddilliol unwaith i bob rhodd ariannol, dyled, treth a thraul gael eu talu. Mae'n debyg mai rhoddion gweddilliol sydd fwyaf llesol i Blaid Cymru am eu bod yn cael eu gwarchod rhag colli eu gwerth trwy chwyddiant. Mae gadael rhodd weddilliol o ddim ond 1% i Blaid Cymru yn sicrhau y bydd ymgyrchwyr y dyfodol yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i ddal ati i adeiladu Cymru fwy ffyniannus.

[i'r brig]

Rhodd ariannol

Swm penodol o arian yw rhodd ariannol. Mae chwyddiant yn gostwng gwerth rhodd ariannol, felly gallwch ei adolygu o bryd i'w gilydd yn ôl eich dymuniad.

[i'r brig]

Does gen i ddim ewyllys - pam fod arnaf angen un?

Dylai pawb dros 18 oed fod ag ewyllys er mwyn gwneud yn sicr fod eu hasedau yn cael eu dosbarthu i'w hanwyliaid a bod yr achosion y maent hwy'n credu ynddynt yn cael eu cefnogi. Er bod llawer o bobl yn credu nad oes angen ewyllys am nad oes ganddynt lawer o asedau, plant neu tra'u bod yn ifanc, y gwir yw bod ewyllys yn helpu eich anwyliaid. Nid yn unig y mae hyn yn helpu i sicrhau bod eich eiddo personol yn cael ei ddosbarthu yn unol â'ch dymuniadau, gall ewyllys hefyd wneud y broses brofiant yn gyntflymach ac yn llai drud.

Gall cyfreithiwr eich tywys trwy'r broses a'ch helpu i wneud yn siŵr bod eich holl ddymuniadau yn cael eu hateb. Yn dibynnu ar faint eich stad, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiaeth ar eich stad. Dan rai amgylchiadau, mae modd cymryd camau i leihau'r hyn sy'n ddyledus, a thrwy roi rhodd i Blaid Cymru, byddwch yn lleihau'r rhwymedigaeth hon.

[i'r brig]

Mae gen i ewyllys yn barod – on'd yw yn anodd ei newid?

Os oes gennych ewyllys eisoes, yna mae'n hawdd iawn ei newid er mwyn gadael rhodd i Blaid Cymru. Y cyfan mae'n rhaid i chi wneud yw anfon 'ffurflen codisil' at eich cyfreithiwr, a gellir ychwanegu hwn at eich ewyllys. Mae'n broses gyflym a syml. Gall eich cyfreithiwr eich helpu i wneud hyn.

[i'r brig]

Rwyf eisoes wedi cofio Plaid Cymru yn f'ewyllys

Diolch o waelod calon am hyn. Byddai o gymorth mawr pe gallech ddod i gysylltiad i roi gwybod i ni fel y gallwn roi'r manylion diweddaraf i chi am ddatblygiadau a sicrhau bod eich dymuniadau yn cael eu parchu. Nid yw hyn yn rhoi rheidrwydd o fath yn y byd arnoch petaech yn digwydd newid eich meddwl, a chaiff ei drin yn hollol gyfrinachol.

[i'r brig]

Cysylltu efo Plaid Cymru

Os hoffech unrhyw gymorth neu fanylion pellach, cysylltwch efo ni. Mae'n manylion i'w gweld ar y dudalen gyswllt (cliciwch yma).

[i'r brig]