Ar ôl chwarter canrif o ddatganoli, nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr nad oes gan ein Senedd reolaeth dros gyfiawnder troseddol na’r pwerau priodol i adeiladu Cymru fwy cyfartal. Bydd ymgeiswyr Plaid Cymru yn yr etholiad hwn yn canolbwyntio ar ymgyrchu i ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol yn llawn, o’r heddlu i garchardai i’r gwasanaeth prawf, fel y gallwn greu system gyfiawnder decach a mwy cyfartal.

Bydd Plaid Cymru hefyd yn canolbwyntio ein hymgyrch ar strategaeth blismona sy’n lleihau’r bwlch economaidd ac yn mynd i’r afael â’r gwahaniaethu sy’n gwreiddio anghydraddoldeb. Byddai Comisiynwyr Plaid Cymru yn diwygio cyfreithiau defnyddio sylweddau, yn gweithio i leihau aildroseddu, yn gwella cymorth i ddioddefwyr ac yn mynd i’r afael â throseddau casineb.

Bydd y pleidiau eraill yn sôn am fân newidiadau i'r system gyfiawnder, ond Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n brwydro dros newid sylfaenol, hirdymor drwy herio Llywodraeth y DU i sicrhau Fformiwla Ariannu Teg i Gymru a thrwy alw am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol.

Mae ein maniffesto ar gyfer Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (CHTh) ar gyfer y pedair ardal heddlu yng Nghymru, a gynhelir ar 2 Mai 2024 ar gael yma. 

 

Liz Saville Roberts

Maniffesto Etholiadau CHTh

 

Ben Lake

Maniffesto Hawdd ei Ddeall