Mae Plaid Cymru bob amser yn siarad dros fuddiannau Cymru a phawb sydd wedi gwneud ein cenedl yn gartref.

Gyda’n gwreiddiau’n ddwfn yn ein cymunedau, o’r pwynt mwyaf gogleddol yn Ynys Môn yr wyf yn ei gynrychioli i’n cymoedd deheuol lle cefais fy ngeni, mae ein hymgyrchwyr, ein cynghorwyr, ein cynrychiolwyr yn y Senedd ac yn San Steffan yn gweithio’n ddiflino ar eich rhan – gan wneud yr achos dros Gymru decach, werddach, a mwy llewyrchus.

Drwy wneud hyn gyda’n gilydd, gyda’r dealltwriaeth bod ein llais torfol yn cael ei glywed yn uwch ac yn mynd ymhellach nag unrhyw unigolyn, gallwn adeiladu’r achos dros Gymru yn sefyll ar ei thraed ei hun fel cenedl hyderus a llwyddiannus ble y gall pawb gyflawni eu potensial.

Rwyf am i Blaid Cymru fod yn gartref i bawb sy’n rhannu’r uchelgais hon a thrwy hynny, rwy’n golygu cartref i’r rhai sydd eisoes yn chwilfrydig am annibyniaeth, y rhai sy’n hyderus ynghylch ein dyfodol fel yr wyf i, neu’r rhai nad yw eu chwilfrydedd eto wedi’i danio.

Mae gan Gymru gymaint o botensial, ond rydym yn cael ein dal yn ôl gan lywodraeth Dorïaidd niweidiol yn San Steffan a llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd sy’n brin o frys a dychymyg.

Boed ar godi safonau yn ein hysgolion, adeiladu Gwasanaeth Iechyd gwydn a chynaliadwy, creu swyddi sgiliau uchel sy’n talu’n dda neu ddiogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae gan Blaid Cymru yr egni a’r syniadau sydd eu hangen i newid cwrs Cymru er gwell.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar ein taith tuag at annibyniaeth.