Cyfiawnder a Chydraddoldeb

Cyfiawnder

  • Gosod targed statudol i leihau tlodi plant o ddau draean erbyn 2030, gyda’r nod o’i waredu’n llwyr erbyn 2035.
  • Pwyso am ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol yn llawn – yr heddlu, carchardai, y gwasanaeth prawf a’r llysoedd – fel y gallwn ei gwneud yn fwy teg a chyfartal.
  • Creu swydd ar lefel Cabinet ar gyfer Gweinidog Cydraddoldeb a Grymuso Menywod.
  • Gweithredu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil i Gymru, gyda’r nod o ddileu hiliaeth systemig.
  • Ymgyrchu i sicrhau bod mwy o’r rhai sydd â hawl i gredyd pensiwn yn cofrestru amdano.
  • Pasio Deddf Awtistiaeth i Gymru, sy’n defnyddio agwedd ar sail hawliau ar gyfer pobl awtistig, neu y tybir bod ganddynt awtistiaeth ond nad ydynt wedi cael diagnosis eto.

Darllen mwy