Menywod

Rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau Cymru sy’n gyfartal rhwng y rhyweddau yn seiliedig ar gydraddoldeb canlyniadau, ac nid cydraddoldeb cyfle yn unig. Byddwn ni’n creu swydd ar lefel Cabinet – Gweinidog Cydraddoldeb a Grymuso Menywod – a fydd yn ymroddedig i weithredu argymhellion yr Adolygiad Cydraddoldeb Rhywedd yn llawn.

Nid yw’n dderbyniol bod y bwlch cyflog rhwng y rhyweddau’n dal i fod ar 14.5 y cant yng Nghymru. Byddwn ni’n ei leihau drwy gynyddu cyflog gweithwyr gofal cymdeithasol, dyfarnu cynydd cyflog termau real i weithwyr y GIG, rhoi diwedd ar gontractau dim oriau, a thrwy gynnwys cydbwysedd rhwng y rhyweddau mewn contractau caffael cyhoeddus.

Ein nod yw sicrhau Senedd â chydbwysedd o 50:50 rhwng y rhyweddau, gan gynyddu ar yr un pryd gynrychiolaeth pobl groenliw, pobl LHDT+, pobl anabl, a menywod dosbarth gweithiol. Byddwn ni’n gwneud system etholiadol y Senedd yn fwy cyfrannol mewn ffordd a fydd yn hyrwyddo cyflawni’r nod hon.

Cyfiawnder a Chydraddoldeb: darllen mwy