Anabledd

Mae pandemig Covid-19 wedi gwaethygu problemau iechyd, cymdeithasol ac economaidd yr oedd pobl anabl eisoes yn eu hwynebu, ac wedi creu anawsterau a bylchau newydd mewn gwasanaethau i lawer. Mae Plaid Cymru’n ymroddedig i liniaru anawsterau a chael gwared â rhwystrau o’r fath drwy agwedd ryngblethol. Byddwn ni:

  • Yn sefydlu cynlluniau cyflogaeth cysgodol i bobl sydd angen amgylchedd mwy cefnogol i ddychwelyd i’r gwaith.
  • Yn gofyn i gyflogwyr gyhoeddi eu bwlch cyflog anabledd.
  • Yn sicrhau bod awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol yn darparu tai mwy addas i bobl anabl. Bydd gan bob ysgol fynediad priodol ar gyfer disgyblion sy’n gorfforol anabl.
  • Yn darparu cymorth gwell i bobl ag anawsterau dysgu, gan gynnwys cynyddu nifer y nyrsys arbenigol mewn lleoliadau ysbyty i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau wrth ddarparu gwasanaethau iechyd.
  • Yn gweithio gyda phobl ddall, pobl â golwg rhannol, pobl fyddar, a’r rhai sy’n profi colled clyw, y sefydliadau sy’n eu cynrychioli, a gweithwyr proffesiynol, i ddatblygu strategaethau cenedlaethol i sicrhau mynediad cydlynus a theg at wasanaethau.

Cyfiawnder a Chydraddoldeb: darllen mwy