Pobl hŷn

Yn ogystal â’n polisïau ym meysydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Thai, bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n cefnogi’r canlynol:

  • Diogelu gwerth Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer pensiynwyr drwy gadw’r clo triphlyg a mynediad cynhwysol at fanteision allweddol fel y drwydded deledu, pàs bws, a thaliadau tanwydd yn y gaeaf.
  • Galwadau i roi mynediad cynnar at Bensiwn y Wladwriaeth i’r rhai sydd o fewn tair blynedd i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn methu â gweithio oherwydd cyfrifoldebau gofalu neu salwch.

Tan y bydd polisi Lles wedi’i ddatganoli’n llwyr, byddwn ni’n cyflwyno Cynllun Gweithredu i sicrhau bod mwy o’r rhai sydd â hawl i gredyd pensiwn yn cofrestru amdano.

Cyfiawnder a Chydraddoldeb: darllen mwy