Annibyniaeth

Crynodeb

  • Cynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod ein tymor cyntaf yn y llywodraeth.
  • Creu Comisiwn Cenedlaethol statudol i oruchwylio’r broses fydd yn arwain at y refferendwm, gan gynnwys drafftio Cyfansoddiad i Gymru gydag ymgynghori eang.
  • Sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru a datganoli’r heddlu a chyfiawnder, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  • Cyflwyno Gorchymyn i geisio datganoli grym ar unwaith dros faterion sydd wedi’u cadw’n ôl ar hyn o bryd, gan gynnwys rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni, ac Ystadau’r Goron.
  • Cyd-gynhyrchu rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu polisi, a chreu Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru, sy’n rhannu diwylliant a gweledigaeth ar draws pob sefydliad yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaeth sifil.
  • Cynnal archwiliad manwl o sut dylai Cymru annibynnol ymgysylltu â gwledydd eraill Prydain.

Darllen mwy