Cenedl newydd wedi’i thrawsnewid

Byddwn ni’n gwneud y gwaith sylfaenol i gefnogi’r gwaith o gyflawni gweledigaeth ehangach a hirdymor ar gyfer dyfodol Cymru, wrth i ni geisio codi cenedl annibynnol newydd, gynaliadwy, gyfartal a chymdeithasol gyfiawn – Cenedl Gyfartal lle mae Pawb yn Gydradd.

Llywodraeth effeithiol, gwlad sy’n gwneud yn dda

Byddwn yn cyflwyno fframwaith perfformiad cenedlaethol i lywio nid yn unig Llywodraeth Cymru ond hefyd y gwasanaeth cyhoeddus ehangach a phartneriaid allweddol eraill tuag at genhadaeth a rennir ar gyfer 2030, gydag amcanion cenedlaethol diriaethol a dangosyddion cenedlaethol ar gyfer y wlad gyfan, yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Byddwn ni’n cyflwyno cyfres syml o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Cyhoeddus yn gyffredinol, gan gyfuno gwaith adrodd ar wariant gyda’r canlyniadau a gyflawnir ym mhob maes polisi.

Byddwn yn cryfhau peirianwaith y llywodraeth ac yn ymateb yn gadarnhaol i’r pryderon a godir a’r argymhellion a wneir gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd.

Annibyniaeth: darllen mwy