Annibyniaeth i Gymru

Dylai penderfyniadau ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru fod yn nwylo pobl Cymru, heb ddim amwysedd.

Yn unol â hynny, byddwn ni’n ceisio pwerau gan San Steffan i Gymru ar wneud penderfyniadau ar gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.

Byddwn ni’n cyflwyno Gorchymyn i geisio datganoli grym ar unwaith dros faterion sydd wedi’u cadw’n ôl ar hyn o bryd, gan gynnwys rheilffyrdd, lles, prosiectau ynni, ac Ystâd y Goron.

Ochr yn ochr â’r trafodaethau hyn, bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n cyflwyno Ddeddf Ymreolaeth i Gymru i baratoi’r ffordd ar gyfer cynnal refferendwm annibyniaeth yng nghanol y degawd hwn.

Bydd creu Comisiwn Cenedlaethol statudol yn rhan ganolog o’r Ddeddf Ymreolaeth, i oruchwylio’r broses yn arwain at refferendwm yn ystod ein tymor cyntaf yn y llywodraeth.

Bydd y Ddeddf yn grymuso’r Comisiwn i sefydlu Cynulliadau Dinasyddion ymgynghorol, i gynnal arolygon a refferenda, i lunio Cyfansoddiad ar gyfer Cymru annibynnol, ac i archwilio cydberthnasau yn y dyfodol gyda gweddill y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Bydd union amseriad y refferendwm annibyniaeth yn ein tymor cyntaf yn y llywodraeth yn ddibynnol ar gyflymder digwyddiadau, gan gynnwys:

  • I ba raddau y bydd Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn parhau i danseilio’r setliad datganoli.
  • Camau tuag at annibyniaeth yr Alban.
  • Newid gwleidyddol posib yn y gydberthynas rhwng Gogledd Iwerddon a Weriniaeth Iwerddon.

Mae pwysau’r digwyddiadau hyn a digwyddiadau eraill a allai symud yn gyflym yn golygu bod Cymru’n wynebu perygl go iawn o gael ei gadael ar ôl yng ngweddillion y Deyrnas Unedig, mewn ffurfiad newydd Cymru-a-Lloegr. O ran pwerau, gallai hynny olygu y bydd Cymru, yn ymarferol, yn dod yn ategyn i Orllewin Lloegr. Mae’r posibiliad hwnnw’n ffactor sylweddol y tu ôl i’r cynnydd presennol mewn cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru. Mae pobl Cymru’n dweud wrthon ni nad ydyn nhw’n fodlon cael eu gadael ar ôl. Ethol Llywodraeth Plaid Cymru yw’r unig ffordd o warantu y gallwn ni greu Cymru newydd fel rhan o’r teulu byd-eang o genhedloedd annibynnol.

Annibyniaeth: darllen mwy