Mudwyr, Ffoaduriaid a Phobl sy’n Ceisio Lloches

Bydd Plaid Cymru’n cadw’r nod i Gymru ddod yn Genedl Noddfa, gan gynhyrchu strategaeth Ymfudo newydd i Gymru gyda chamau, amserlenni, a chyllideb glir. Rydyn ni’n ymrwymo i leddfu profiad mudwyr a phobl sy’n ceisio lloches. Bydd hyn yn cynnwys rhoi diwedd ar amodau ‘Dim Hawl i Arian Cyhoeddus’ ac yn cael gwared â’r ffioedd gofal iechyd i bobl nad ydynt yn ddinasyddion y Deyrnas Unedig yn GIG Cymru.

Byddwn ni’n gwneud plant a phobl ifanc mudol yn gymwys ar gyfer grantiau addysgol, gan gynnwys y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Prydau Ysgol am Ddim, a’r Grant Amddifadedd Disgyblion. Bydd hyn yn rhoi mynediad i bob mudwr a pherson sy’n ceisio lloches at wasanaethau cyhoeddus pan fydd eu hangen arnynt.

Cyfiawnder a Chydraddoldeb: darllen mwy