Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau

Mae Plaid Cymru’n credu mewn cymdeithas deg a chyfiawn, lle caiff pawb eu trin yn deg a lle gall pawb fwynhau yr un hawliau a chyfleoedd. Byddwn ni’n pwyso am ddatganoli Deddf Cydraddoldeb 2010 i’r Senedd.

Byddwn ni’n gwreiddio caredigrwydd ar bob lefel o’r llywodraeth ac mewn polisi cyhoeddus, gan ddilyn esiampl Llywodraeth yr Alban. Byddwn ni hefyd yn Llywodraeth a fydd yn cydnabod y rhwystrau rhyngblethol cymhleth y mae’n rhaid i unigolion eu goresgyn. Nid yw mynd i’r afael â materion anghydraddoldeb yn ddull “un maint i bawb”.

Byddwn ni’n gosod targedau heriol ar gyfer recriwtio yn y sector cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod pobl â nodweddion amrywiol yn cael eu cynrychioli’n amlwg yn y llywodraeth ar bob lefel – gan ganolbwyntio’n benodol ar dangynrychiolaeth menywod a phobl groenliw mewn uwch swyddi.

Yn ogystal, byddwn ni:

  • Yn Creu Comisiwn Tlodi ac Anghydraddoldeb Statudol.
  • Yn ceisio grymoedd datganoledig i ddisodli’r Lwfans Gofalwr gydag Incwm Gofalwyr Cynhwysol – heb fod ar sail prawf modd ac sy’n gyfwerth o leiaf â lefel Lwfans Ceisio Gwaith – ar gyfer pob gofalwr sy’n darparu mwy na 35 awr o ofal.
  • Yn ymateb i dueddiadau’r dyfodol fel awtomeiddio mewn ffyrdd sy’n lleihau anghydraddoldebau yn hytrach na’u gwaethygu.
  • Yn archwilio cyfleoedd i hyrwyddo wythnos weithio fyrrach a chydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith.

Cyfiawnder a Chydraddoldeb: darllen mwy