Plant

Byddwn ni’n adeiladu ar raglenni, fel Dechrau’n Deg, i fynd i’r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, ac yn blaenoriaethu trallod yn ystod plentyndod ac ymyrraeth gynnar. Byddwn ni’n gosod strategaeth genedlaethol glir i rymuso ac annog gwasanaethau cyhoeddus allweddol i ddarparu ymyrraeth effeithiol a chynaliadwy ar sail tystiolaeth.

Yn ogystal, byddwn ni:

  • Yn atal cwmnïau preifat rhag gwneud elw mewn cartrefi plant a gofal maeth.
  • Yn dod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru.
  • Yn gwneud deddfau newydd i ddiogelu hawliau plant sy’n cael eu haddysgu gartref.
  • Yn sicrhau bod gan bob plentyn y dyfeisiau electronig sydd eu hangen arnynt i ddysgu gartref, a mynediad at y rhyngrwyd.
  • Yn gwneud diarddel disgyblion o’r ysgol yn hen hanes.
  • Yn gweithio gyda Mentrau Iaith a Chanolfannau Iaith i annog defnydd o’r Gymraeg ymhlith plant.

Byddwn ni’n cysoni buddsoddiad hirdymor mewn gwasanaethau gyda strategaethau hirdymor ar gyfer atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Cyfiawnder a Chydraddoldeb: darllen mwy