Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Rydyn ni’n deall bod y term BAME yn aml yn ddadleuol, a bod perygl iddo symleiddio dwysedd ac amrywiaeth yr heriau a wynebir gan gysgodi grwpiau o fewn y term. Byddwn yn ymgynghori’n barhaus ar y termau a ffefrir.

Mae Plaid Cymru’n cydnabod bod anoddefgarwch hiliol, ethnig a chrefyddol yn systemig ac yn sefydliadol. Rydyn ni’n ymroddedig i drechu Islamoffobia, gwrth- Semitiaeth, agweddau gwrth-ymfudol, agweddau gwrth-Sipsiwn a Theithwyr Roma, a phob ffurf ar hiliaeth a rhagfarn mewn gwleidyddiaeth, yn ein plaid ni, ar ein strydoedd, ar-lein ac yn ein cyfryngau.

Byddwn yn creu ac yn gweithredu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil i Gymru, gan fwrw ymlaen gydag adroddiad manwl ac argymhellion yr Athro Ogbonna ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Ym maes addysg, byddwn ni’n mynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant o wahanol gefndiroedd cartref. Byddwn ni’n gweithredu argymhellion adroddiad Charlotte Williams ar Gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a Cynefin yn y Cwricwlwm Newydd.

Byddwn ni’n gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a darparwyr hyfforddiant addysgu eraill i sicrhau bod athrawon yn cael eu hyfforddi ar bob cam yn eu gyrfa ym maes arfer gwrthhiliol, cymhwysedd diwylliannol, sut i adnabod ac ymateb yn effeithiol i hiliaeth, ac i ddatblygu amrywiaeth go iawn yn y cwricwlwm.

Yn ein gweithleoedd, byddwn ni’n cyflwyno arferion llunio rhestrau byrion dienw i’n prosesau, ac yn ei gwneud yn ofynnol bod y sector cyhoeddus yn ymgorffori’r rhain er mwyn dileu rhagfarn oherwydd manylion personol fel enw / cod post / dyddiad geni.

Byddwn ni’n hyrwyddo hyfforddiant gwrthhiliol fel rhagfarn ddiarwybod ac ystrydebu rhywedd. Bydd cynlluniau gweithredu cadarnhaol yn cael eu cyflwyno i baratoi pobl BAME i lwyddo mewn prosesau recriwtio, ac i fynd ymlaen i rolau rheoli. Rydyn ni’n ymrwymo i dargedau i gynyddu cynrychiolaeth BAME ar bob lefel o’r gweithlu. Byddwn ni’n cefnogi cyflogwyr i gydnabod ac i ystyried gwyliau crefyddol ac arferion crefyddol yn y gweithle.

Mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol, byddwn ni’n cyhoeddi data ethnigrwydd mewn perthynas â bylchau cyflog, etholiadau, penodiadau cyhoeddus a chanlyniadau iechyd, ynghyd â gwella dulliau categoreiddio ethnigrwydd yng ngwaith cipio data cyrff cyhoeddus Cymru. Byddwn ni’n ariannu mwy o raglenni gwrth-hiliaeth, mentora a chysgodi, ac yn ymchwilio i ddiwylliant cyrff cyhoeddus a gwleidyddol ar bob lefel i nodi rhwystrau posibl. Byddwn ni’n annog pleidiau gwleidyddol a chyrff gwleidyddol a chyhoeddus yn agored i ystyried cymryd camau cadarnhaol cyfreithlon i sicrhau canlyniadau cyfartal sy’n adlewyrchu cyfansoddiad ethnig etholaethau.

Ym maes iechyd a thai, byddwn ni’n gweithredu argymhellion Grŵp Cynghori Covid BAME Llywodraeth Cymru, ac yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i fynd i’r afael â’r anghenion tai a’r pryderon fforddiadwyedd sy’n benodol i gymunedau BAME.

Cyfiawnder a Chydraddoldeb: darllen mwy