Mae Starmer wedi “methu ar bob gyfle” i ymrwymo i ariannu teg i Gymru, medd Rhun ap Iorwerth

Heddiw (20 Mawrth 2024) bydd y Senedd yn dadlau cynnig Plaid Cymru yn mynnu cyllid teg i Gymru, gan alw ar Lywodraeth y DU, a Llywodraeth Lafur tebygol sydd i ddod yn San Steffan, i ddod â fformiwla Barnett annheg i ben.

Mae'r model cyllido presennol wedi arwain at wadu biliynau o bunnoedd i Gymru o brosiect HS2 a gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef o ddiffyg buddsoddiad.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, fod Starmer hyd yma wedi methu ag ymrwymo i ariannu teg i Gymru, ac anogodd Prif Weinidog tebygol nesaf Cymru i "roi ei wlad o flaen ei blaid" a mynnu bod Llafur yn ymrwymo i fodel ariannu teg yn seiliedig ar anghenion Cymru yn hytrach na'r boblogaeth.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

"Er bod ASau Llafur yn gofyn i ni ymddiried mewn Llywodraeth Lafur sy'n dod i mewn i wneud y peth iawn gan Gymru, y gwir amdani yw bod Keir Starmer wedi methu ar bob cyfle i ymrwymo i fodel ariannu teg yn seiliedig ar anghenion Cymru.

"Fel y mae'n sefyll mae Cymru'n parhau i gael ei gwrthod biliynau o HS2, rydym wedi colli dros biliwn o bunnoedd o gyllideb Cymru eleni yn unig, ac mae gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef.

"Rhaid i flaenoriaeth gyntaf y Prif Weinidog nesaf fod i roi ei wlad o flaen ei blaid a mynnu i gael gwared o’r fformiwla Barnett hen ffasiwn am fodel ariannu teg i Gymru. Bydd Plaid Cymru wastad yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf."