Hywel Williams

Hywel Williams AS

Facebook Twitter E-bost Gwefan San Steffan

Etholaeth: Arfon

Portffolio: Prif Chwip; Brexit; Swyddfa'r Cabinet; Amddiffyn; FCDO; Gwaith a Phensiynau; Busnes a Masnach

Yn enedigol o Bwllheli, astudiodd Hywel Williams Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn ennill CQSW ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor. Dechreuodd fel gweithiwr cymdeithasol plant yng Nghwm Rhymni ac yna gweithiwr cymdeithasol iechyd meddwl yn Nwyfor. Ymunodd â Chanolfan Ymarfer Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Bangor ym 1985, gan symud ymlaen i fod yn bennaeth y ganolfan erbyn 1993. Gadawodd Hywel ym 1995 i ddilyn gyrfa fel darlithydd, awdur ac ymgynghorydd llawrydd yn canolbwyntio ar waith cymdeithasol, polisi iaith a hawliau lles.

Cyn ei ethol bu'n gwasanaethu fel cynghorydd arbenigol allanol i'r Pwyllgor Materion Cymreig. Cafodd ei ethol yn AS Caernarfon yn 2001, gan ddal y sedd i Blaid Cymru yn 2005. Enillodd sedd newydd Arfon i’r Blaid yn 2010, gan ddal y sedd eto yn etholiadau 2015, 2017 a 2019.

Mae wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Materion Cymreig, y Pwyllgor Gwyddoniaeth, bu’n aelod o Banel Cadeiryddion y Llefarydd, yn aelod ac yna’n Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol y Llefarydd ar Waith Celf. Yn ddiweddarach bu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor ar gyfer Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd nes iddo gael ei ddiddymu. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Gatalwnia.

Mae wedi bod yn llefarydd y Blaid ar ystod eang o faterion, yn fwyaf diweddar dros fasnach, Swyddfa’r Cabinet, Materion Tramor a Brexit. Rhwng 2015 a 2017 ef oedd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan. Pleidleisiodd Hywel Williams dros Aros yn refferendwm 2016.