Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024: ‘Dewch i ni ethol mwy o ferched Cymru nag erioed o’r blaen’

Tair ymgeisydd Plaid Cymru yn amlinellu cynrychiolaeth benywaidd mewn gwleidyddiaeth

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (Dydd Gwener 8 Mawrth 2024), mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi annog pobl Cymru i ethol mwy o fenywod Cymreig i San Steffan nag erioed o’r blaen.

Yn etholiad 2019 etholwyd y nifer uchaf erioed o fenywod i seddi Cymreig yn San Steffan. Fodd bynnag, dim ond 14 allan o 40 sedd (35%) oedd hyn. Dywedodd Ms Saville Roberts fod ethol mwy o fenywod yn Etholiad Cyffredinol 2024 yn “angenrheidrwydd ar gyfer gwell lywodraethu”.

Pwysleisiodd AS Dwyfor Meirionnydd, gafodd ei hethol fel AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru yn 2015, bwysigrwydd creu diwylliant sy’n mynd i’r afael â rhywiaeth. Ychwanegodd ei bod yn falch bod ei phlaid wedi “cymryd camau ymarferol i wella ein diwylliant mewnol ac i gynyddu cynrychiolaeth menywod.”

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn, Llinos Medi, sydd wedi bod y fenyw gyntaf i arwain Cyngor Sir Ynys Môn ers 2017 ac arweinydd cyngor benywaidd ieuengaf Cymru, fod gofal plant yn un rhwystr sy’n atal menywod rhag mynd i mewn i wleidyddiaeth. Dywedodd ei bod yn hanfodol bod diwylliant gwleidyddol yn cael ei greu sy’n “cydnabod a chefnogi rôl hanfodol rhoi gofal, gan alluogi menywod i ofalu am eu teuluoedd heb aberthu eu gobeithion i wasanaethu eu cymunedau.”

Ychwanegodd ymgeisydd Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, Ann Davies, nad yw hi’n “wleidydd cyffredin”, ond y dylai fod. Dywedodd fel “mam, mam-gu, ffermwr, gwraig fusnes a chyn-ddarlithydd”, y byddai’n falch o gynrychioli ei chymuned.

O'i hethol, Ann Davies fyddai'r fenyw gyntaf ers Megan Lloyd George (1957-1966) i gynrychioli Sir Gaerfyrddin yn San Steffan.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Mae merched yn perthyn ym mhob man lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Gydag etholiad cyffredinol hollbwysig ar y ffordd, gadewch i ni sicrhau ein bod yn ethol mwy o fenywod Cymru nag erioed i San Steffan.

“Nid nod yn unig yw ethol mwy o ferched Cymru, mae’n anghenraid ar gyfer gwell lywodraethu. Mae cynrychiolaeth amrywiol yn ein seneddau yn dod â safbwyntiau gwahanol, ac yn helpu pobl i ymgysylltu â’r broses wleidyddol. Gyda mwy o fenywod yn cael eu cynrychioli, mae ein dadleuon a’n polisïau yn cael eu cyfoethogi.

“I wir rymuso menywod mewn gwleidyddiaeth, mae angen i ni greu diwylliant sy'n herio'r rhywiaeth sy'n rhemp yn ein gwleidyddiaeth. Rwy’n falch bod Plaid Cymru wedi cymryd yr her hon yn uniongyrchol, ac wedi cymryd camau ymarferol i wella ein diwylliant mewnol ac i gynyddu cynrychiolaeth menywod.

“Gadewch i ni ymrwymo i ddyfodol lle mae lleisiau menywod yn atseinio ym mhob siambr, gan lunio polisïau sy'n codi ac yn grymuso pawb. A gadewch i ni sicrhau bod 2024 yn gam hollbwysig tuag at greu gwleidyddiaeth sy’n wirioneddol yn gweithio i bawb.”

Ychwanegodd Llinos Medi:

“Rwy’n falch o fod y ddynes gyntaf i arwain Cyngor Sir Ynys Môn ers 2017, ac i fod yr arweinydd cyngor benywaidd ieuengaf yng Nghymru. Fy nod yw i annog merched eraill i ddilyn yn ôl fy nghamau wrth i mi obeithio mynd â’r frwydr i San Steffan.

“Yn anffodus, mae sawl rheswm pam nad yw merched yn mynd i mewn i wleidyddiaeth – mae diffyg gofal plant yn un ohonyn nhw. Mae arnom angen diwylliant gwleidyddol sy’n cydnabod ac yn cefnogi rôl hanfodol rhoi gofal, gan alluogi menywod i ofalu am eu teuluoedd heb aberthu eu dyheadau i wasanaethu eu cymunedau. Mae hyn yn golygu gweithredu polisïau sy'n darparu gofal plant fforddiadwy, trefniadau gwaith hyblyg, a rhwydweithiau cymorth i rieni sy'n gweithio.

“Trwy greu amgylchedd lle gall menywod gydbwyso eu cyfrifoldebau gofalu â’u huchelgeisiau gwleidyddol, gallwn ddatgloi eu potensial llawn fel arweinwyr. Mae’n bryd chwalu’r rhwystrau sy’n dal merched yn ôl.”

Ychwanegodd Ann Davies:

“Dydw i falle ddim yn wleidydd cyffredin, ond dylwn i fod. Rwy'n fam, yn fam-gu, yn ffermwr, yn wraig fusnes ac yn gyn-ddarlithydd. Nid oes unrhyw reswm pam na allaf gynrychioli'r gymuned yr wyf mor falch o fod yn rhan ohoni.

“Yn rhy aml o lawer, fel y gwnes i, mae menywod yn teimlo nad ydyn nhw’n ddigon da i sefyll am y rolau hyn. Ond mae cynrychiolaeth fenywaidd yn hanfodol er mwyn creu gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Trwy ethol mwy o ASau benywaidd Cymreig nag erioed – gallwn anfon neges bod menywod yn perthyn i unrhyw ystafell lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd.

“Pan ddaw’r etholiad, rwy’n gobeithio bod y fenyw gyntaf ers Megan Lloyd George i gynrychioli Sir Gaerfyrddin yn San Steffan a bod yn gynrychiolydd dros yr etholaeth gyfan.”