Ymgeisydd Ynys Môn, Llinos Medi, yn dweud bod sgandalau rhoddion Torïaidd a Llafur yn gostwng ffydd mewn gwleidyddiaeth

Yn ystod ei haraith yn ystod Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru ddydd Sadwrn 23 Mawrth, bydd y Cynghorydd Llinos Medi, sy’n sefyll i fod yn AS Ynys Môn, yn galw am newid y rheolau ar roddion gwleidyddol, yn dilyn sgandalau rhoddion y Ceidwadwyr a Llafur. 

Fe fydd hi’n beirniadu’r ddwy blaid yn San Steffan am roi rhoddion ariannol cyn gwasanaeth cyhoeddus.

Yn ystod ei haraith yng Nghaernarfon, fe fydd hi’n dweud bod “sgandal ar ôl sgandal” o San Steffan yn golygu bod “y cyhoedd wedi colli hyder mewn gwleidyddion”. Fe fydd hi’n dweud ar ôl i’r Torïaid dderbyn rhoddion gan ddyn a wnaeth sylwadau hiliol, ei bod hi’n “amser symud ymlaen a chael gwared ar y Blaid Geidwadol”, gan feirniadu Llywodraeth bresennol y DU am “ddinistrio ein cymunedau, rhwygo gobaith ein ieuenctid a sicrhau bod ei ffrindiau yn elwa ar hyd y ffordd.”

Beirniadodd Ms Medi y Ceidwadwyr am dderbyn rhodd o £10 miliwn gan Frank Hester. Mae Hester yng nghanol sgandal, ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod wedi dweud bod Diane Abbott, yr AS benywaidd du sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y DU, wedi gwneud iddo “ddim ond eisiau casáu pob menyw ddu” ac y dylai “gael ei saethu”.

Mae AS presennol Ynys Môn, Virginia Crosbie, hefyd wedi bod ar dân am dderbyn £128,500 mewn rhoddion mewn ychydig dros ddwy flynedd. Fe fydd hi’n dweud nad yw’n iawn “nad oes gan gwmnïau o Lundain yr hawl i ymyrryd yn nemocratiaeth Môn a Chymru”.

Beirniadodd hi hefyd y Prif Weinidog Llafur newydd, Vaughan Gething, am dderbyn £200,000 gan gwmni a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol. Derbyniodd Mr Gething gyfanswm o £254,600 mewn rhoddion ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth. Derbyniodd ei wrthwynebydd, Jeremy Miles £58,800. Gething enillodd y gystadleuaeth gyda 51.7% o'r bleidlais, o'i gymharu â 48.3% i Miles.

Bydd Llinos Medi yn dweud:

"Ma siŵr eich bod chithau fel fi wedi cael llond bol o’r sgandal ar ôl sgandal sy’n dod o San Steffan. Pe tai nhw’n rhoi gymaint o ymdrech i redeg y wlad yn lle edrych ar ol eu hunan efallai bysa ni mewn gwell lle. Does dim rhyfedd bo’r cyhoedd wedi colli hyder mewn gwleidyddion. Mae gennym Blaid Geidwadol yn derbyn rhoddion anferthol gan unigolyn hiliol, a’r Gweinidogion yn tyrru ar y cyfryngu i’w amddiffyn neu ddod ar frawddeg arferol allan ‘it’s time to move on’, ‘he’s apologised’. Ydi wir, mae’n amser symud ymlaen a chael gwared â’r Blaid Geidwadol sydd wedi dinistrio ein cymunedau, rhwygo gobaith ein hieuenctid a sicrhau bod ei ffrindiau yn elwa ar ffordd.

“A dwedwch chi wrtha i pam mae Aelod Seneddol Ceidwadol presennol Ynys Môn wedi derbyn £128,500 mewn rhoddion mewn ychydig dros ddwy flynedd? A’ rhoddion hyn yn dod gan reolwyr cronfeydd buddsoddi yn Llundain. Beth yn wir yw eu diddordeb yn Ynys Môn? Ydych chi’n meddwl eu bod yn frwd dros y Gymraeg, neu dros ein cymunedau gwledig neu efallai dros ein hetifeddiaeth? Nac ydi siŵr. Ac mae disgwyl i bobl Ynys Môn gwerthfawrogi’r arian er mwyn prynu rhyw hi-vis neu bamffled sy’n greadigol gyda’r gwir drwy ddrysau’r ynys. Dim ond un rheswm sydd tu ôl i’r rhoddion hyn, sef cadw’r Blaid Geidwadol ddinistriol mewn grym. er mwyn Iddyn nhw chwalu’r economi, gwasanaethau cyhoeddus a dyfodol y wlad fwy byth. Fy neges i ddyn nhw ydi, dydi pleidlais pobl Ynys Môn ddim ar werth. Does gan gwmnïau o Lundain ddim hawl ymyrryd yn nemocratiaeth Môn a Chymru!

“A dyma ni’n gobeithio bo Llafur am ddangos gwell esiampl, ond na. Rydym bellach gyda Prif Weinidog Newydd wedi’I ethol gyda mwyafrif bychan iawn ac yntau wedi ariannu ei ymgyrch gyda rhodd ariannol gan unigolyn sydd wedi’I gyhuddo o dorri rheolau amgylcheddol. Ble mae’r egwyddorion sylfaenol bywyd cyhoeddus wedi mynd gyfeillion? Mae’n edrych fel bod ‘bank transaction’ yn bwysicach na ‘public service’.

“Dydy pob plaid ddim 'run fath. Dwi'n falch bod Plaid Cymru yn blaid lawr gwlad. Mae hynny’n golygu bod yn atebol i’r bobl yr ydym yn eu cynrychioli, nid i fuddsoddwyr busnesau mawr a 'billionaires'. Ga 'ni dynhau’r rheolau a sicrhau na all unrhyw blaid brynu pleidleisiau i ymyrryd yn ein democratiaeth.”