"Mae cymunedau Cymru'n dioddef o ariannu annheg o San Steffan" medd Rhun ap Iorwerth

Mae Plaid Cymru yn annog Llywodraeth y DU i ymrwymo i fodel ariannu teg i Gymru, pa bynnag blaid fydd wrth y llyw.

Bydd Senedd Cymru yn trafod cynnig i fynnu cyllid tecach i Gymru wythnos nesaf.

Ddydd Mercher (20 Mawrth 2024), bydd Plaid Cymru yn cynnal dadl yn y Senedd i alw ar lywodraeth y DU i ddiwygio model cyllido annheg Cymru.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod y model ariannu presennol yn "costio cymunedau Cymru" a'i fod yn cyfeirio at y biliynau sy'n parhau i gael eu gwrthod i Gymru o brosiect HS2. Roedd tanariannu cronig, meddai, yn golygu bod gwasanaethau cyhoeddus yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru fod model ariannu tecach sy'n ariannu Cymru "yn ôl angen nid poblogaeth i yrru ffyniant a thegwch" yn rhywbeth roedd cymunedau Cymru yn "crefu amdano”.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

"Ers llawer rhy hir, mae Cymru wedi dioddef o danariannu cronig yn nwylo San Steffan. Mae’r Fformiwla Barnett hen ffasiwn sy'n anwybyddu anghenion Cymru wedi arwain at wrthod biliynau i Gymru o HS2, cyllideb Llywodraeth Cymru sy'n werth dros £1bn yn llai, ac awdurdodau lleol ar draws Cymru mewn argyfwng. Mae ein cymunedau yn dioddef o ganlyniad.

"Rydyn ni'n gwybod nad yw hyn cystal ag y mae pethau’n gallu bod i ni. Byddai model ariannu teg yn seiliedig ar anghenion Cymru i gymryd lle Fformiwla Barnett yn gyrru'r ffyniant economaidd a'r tegwch y mae ein cymunedau'n crefu amdano.

"Mae Keir Starmer yn cymryd Cymru yn ganiataol - gan ddangos dro ar ôl tro amharodrwydd i wyro oddi wrth uniongrededd y Torïaid o wadu Cymru ei chyfran deg - ac fel y cadarnhawyd gan y Prif Weinidog sy'n gadael yn y Senedd, nid yw Llafur yng Nghymru hyd yn oed yn ceisio ei berswadio fel arall. Bydd Plaid Cymru bob amser yn sefyll dros degwch ac uchelgais i Gymru, ond rhaid i hyn hefyd fod yn ymrwymiad gan unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol - beth bynnag yw plaid Llundain wrth y llyw."