Bydd ethol mwy o ASau Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol y DU yn cadw’r Torïaid allan, yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf ac yn anfon neges i Lafur i beidio cymryd Cymru’n ganiataol, meddai arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS heddiw.

Mewn neges o obaith yng Nghynhadledd Wanwyn y blaid yng Nghaernarfon, fe fydd Mr ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru yn “sefyll ar wahân i wleidyddiaeth sefydliadol y DU” gan ei bod “ddim eisiau i’r dyfodol edrych fel y gorffennol ac eisiau i bobol deimlo gobaith am wleidyddiaeth unwaith eto.”

Wrth fynd i’r afael â record y llywodraeth Geidwadol ddirmygus, bydd Arweinydd y Blaid yn dweud “o Ynys Môn i Fynwy, mae ASau Ceidwadol wedi cefnogi cyfundrefn ddrylliedig gan achosi difrod di-ddweud i’r bobl y maent i fod i’w gwasanaethu.”

Mae pleidlais i Lafur yn yr Etholiad Cyffredinol yn gymeradwyaeth o ‘uniongrededd y Torïaid’ meddai Mr ap Iorwerth.

Wrth wneud sylwadau ar y Prif Weinidog sydd newydd ei ethol bydd Mr ap Iorwerth yn dweud;

“Rwy’n ailadrodd y llongyfarchiadau a estynnais i Vaughan Gething ar ei fuddugoliaeth yn yr etholiad y penwythnos diwethaf.

Yn wir, gwnaf hynny gyda didwylledd, gan wybod yn iawn yr anrhydedd a’r cyfrifoldeb a ddaw yn sgil swydd yr arweinydd.

Ond yn union fel y dywedodd Rishi Sunak yn eironig ei fod yn cynnig “newid”, mae’n wir hefyd mai’r unig ‘newydd-deb’ gyda’r arweinydd Llafur newydd yng Nghymru yw’r ffaith llythrennol mai dim ond am ddau ddiwrnod y mae wedi bod yn ei swydd. 

Arweinydd Newydd, ie.

Ochenaid o ‘yr un peth eto’? Yn sicr.

A pheidiwch ag anghofio nad ymgyrch gyffredin oedd hon. Er ein bod wedi arfer â chwestiynau am roddion amheus o amgylch y blaid Geidwadol, mae’r hyn yr ydym wedi’i weld yn ystod yr ymgyrch Lafur hon wedi tanseilio cymaint o ffydd. A phan fyddwn yn siarad am yr angen i dalu rhywbeth yn ôl, gallwn olygu mewn 2 ffordd - nid dim ond yr arian parod, mae'n ymddiriedaeth hefyd, ac mae hynny hyd yn oed yn fwy gwerthfawr.”

Yn ei ail araith yn y gynhadledd ers dod yn Arweinydd Plaid Cymru, mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth AS ddweud;

“Nid dwy blaid yw Etholiadau Cyffredinol – er gwaetha’r hyn y byddai’r newyddion yn ei drosglwyddo i’r ystafelloedd byw a’r hyn a argraffwyd ym mhapurau’r bore.

Yng Nghymru, gallwn wneud pethau’n wahanol.

Cadw y Torïaid allan.

Rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf.

Ac … ar yr un pryd yn dweud y gallwn ddweud wrth Lafur na fyddwn yn gadael iddynt gymryd Cymru yn ganiataol.

O Fôn i Fynwy, mae ASau Ceidwadol wedi cefnogi cyfundrefn ddrylliedig sy’n achosi di-ddweud i’r bobl y maent i fod i’w gwasanaethu.

Ateb Keir Starmer oedd cyhoeddi’r angen am agwedd hollol newydd at wleidyddiaeth.

Ond nid yw cynhadledd, yn dilyn uniongrededd y Ceidwadwyr, yn agwedd newydd at wleidyddiaeth.

Mae gweld Rachel Reeves yn cerdded yr un llwybr a Jeremy Hunt yn cynnig rhagor o lymder.

Mae diswyddo Gweinidog yr Wrthblaid am sefyll ar linell biced yn isafbwynt newydd i Lafur.

Mae brad HS2 Sunak a Starmer ond yn golygu fod Cymru ar ei hol hi.

Ac nid yw'r glymblaid Llafur-Torïaidd ar godi cap bonws y bancwyr ond yn mynd i ddangos ar ochr pwy y mae nhw go iawn.

Rydym yn sefyll ar wahân i wleidyddiaeth sefydliad y DU.

Nid ydym am i'r dyfodol edrych fel y gorffennol.

Rydyn ni eisiau i bobl deimlo gobaith am wleidyddiaeth unwaith eto.”

Gan nodi’r hyn y mae’n rhaid i Lywodraeth nesaf y DU ei wneud dros Gymru, mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth AS ei ddweud;

“Rhowch y cyllid sy’n eiddo i ni, o goffrau’r Trysorlys y mae arian trethdalwyr Cymru yn cyfrannu ato, fel pob rhan arall o’r DU.

Rhowch y grymoedd sydd eu hangen arnom i adeiladu senedd bwerus, nid datganoli tameidiog na all gadw i fyny â gobeithion ein pobl.

Rhowch ryddid i ni brofi’r hyn y mae pob un ohonom yn y neuadd hon a miloedd y tu hwnt iddi eisoes yn ei wybod – mai nid dyma’r cystal ag y gall pethau fod i Gymru.

A BYDDWN yn ffynnu. GALL Cymru.”