Cwricwlwm

Mae datblygiad y cwricwlwm newydd yn cyflwyno cyfleoedd cyffrous i drawsnewid ein system addysg. Mae ganddo botensial i hyrwyddo creadigrwydd, cydweithredu, ac arloesedd. Bydd Plaid Cymru’n sicrhau bod gan athrawon yr amser a’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i baratoi ac i ddefnyddio datblygiad proffesiynol i weithredu’r cwricwlwm yn effeithiol.

Rydyn ni’n cefnogi rôl y cwricwlwm newydd yn meithrin dealltwriaeth well o iechyd meddwl a lles, addysg gorfforol fel elfen graidd, ynghyd â gwersi ar gydberthnasau iach, dinasyddiaeth, hawliau plant, hunaniaeth Gymreig, a thaclo ystrydebau rhywedd. Bydd hanes a straeon Cymru yn eu holl amrywiaeth, gan gynnwys hanesion pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn dod yn rhan orfodol o’r cwricwlwm yn ôl y gyfraith. Byddwn ni’n sicrhau bod gan athrawon y deunyddiau a’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw.

Drwy ein rhaglen Gorwelion genedlaethol, byddwn ni’n buddsoddi mewn dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Dylai hyn gynnwys dysgu antur a gweithgareddau allgyrsiol o bob math, gan gynnwys ymweliadau astudio a theithiau ysgol, chwaraeon, cerddoriaeth a drama.

Addysg: darllen mwy