Adeiladu Cymru well - wynebu’r dyfodol gyda’n gilydd

Nid dyma’r wlad ddylen ni fod. Nid dyma’r wlad allwn ni fod. Ac nid dyma’r wlad rydyn ni’n dymuno bod.

Mae gan Gymru botensial anhygoel fel cenedl. Dydy’r problemau rydyn ni wedi’u profi ers cenedlaethau ddim yn anochel. Gallwn ni ddatrys y problemau hyn, gyda’n gilydd. Ond y cam cyntaf yw ethol Llywodraeth newydd, sydd â’r uchelgais i adeiladu Cymru newydd, fydd yn well na’r un a fu.

Bydd Rhaglen Lywodraethu Plaid Cymru yn seiliedig ar gyflawni pum prif nod.

1. Dechrau da mewn bywyd i bob plentyn

  • Prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd gan ddefnyddio’r cynnyrch gorau o Gymru.
  • Buddsoddi mewn 4,500 o athrawon a staff cynorthwyol ychwanegol, lleihau maint dosbarthiadau, rhoi gwerth ar y proffesiwn addysgu.
  • Gofal plant am ddim i bawb o 24 mis oed ymlaen.

2. Llwybr at lwyddiant i’r wlad gyfan

  • Sbardun Economaidd Gwyrdd er mwyn helpu i greu 60,000 o swyddi.
  • Gwarant o swydd neu hyfforddiant o safon uchel i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.
  • Benthyciadau di-log i gefnogi busnesau bach i adfer ac adfywio ar ôl Covid.

3. Chwarae teg i deuluoedd

  • Torri biliau cyfartalog y Dreth Gyngor, gan helpu pob punt i fynd ymhellach.
  • Taliad ychwanegol o £35 y plentyn bob wythnos i deuluoedd sy’n byw o dan y ffin tlodi.
  • 50,000 o dai cymdeithasol a fforddiadwy, a rhenti teg ar gyfer y dyfodol.

4. Y gwasanaeth iechyd a gofal gwladol gorau

  • Hyfforddi a recriwtio 1,000 o Feddygon newydd a 5,000 o Nyrsys a staff cysylltiedig newydd.
  • Gofal personol am ddim pan fydd angen ar gyfer yr henoed, gan roi diwedd ar y rhaniad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Gwarantu isafswm cyflog o £10 yr awr i weithwyr gofal.

5. Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd

  • Cyflwyno Cenhadaeth Cymru 2035 i ddatgarboneiddio ac i gyrraedd allyriadau sero-net.
  • Sefydlu Ynni Cymru fel cwmni datblygu ynni gyda tharged o gynhyrchu 100 y cant o’i drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
  • Cyflwyno Deddf Natur gyda thargedau statudol i adfer bioamrywiaeth erbyn 2050.

 

Ein Gweledigaeth: darllen mwy