Miliwn o Siaradwyr

Mae Plaid Cymru eisiau Cymru wirioneddol ddwyieithog, lle mae dinasyddion yn teimlo’n rhydd i ddefnyddio eu dewis iaith yn eu bywydau bob dydd. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni gynyddu nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg ledled y wlad, gan sicrhau bod ganddyn nhw bob cyfle i ddefnyddio’r iaith yn ôl eu dewis.

Byddwn ni’n sicrhau bod y Gymraeg wedi’i phrif ffrydio yn holl bolisïau, canllawiau a strategaethau Llywodraeth Cymru.

Er mwyn i’r iaith ffynnu mewn modd cynaliadwy, mae angen i ni ganolbwyntio ar ei defnydd bob dydd yn ein cymunedau, ein gweithleoedd, a’n gwasanaethau cyhoeddus.

Rydyn ni felly yn cefnogi gweledigaeth ‘Mwy na Miliwn’ Cymdeithas yr Iaith, sy’n ehangu agenda’r Gymraeg y tu hwnt i niferoedd yn unig, gan osod targed i greu 1,000 o ofodau Cymraeg newydd erbyn diwedd tymor nesaf y Senedd, a chodi buddsoddiad i’r lefel a welir yng Ngwlad y Basg dros amser.

Byddwn ni’n gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg adolygu a diwygio’r targedau addysg sydd yn strategaeth iaith y llywodraeth bresennol, er mwyn sicrhau y byddan nhw’n cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.

Rydyn ni’n cefnogi argymhellion Comisiynydd y Gymraeg yn ei Faniffesto ar gyfer Etholiad Senedd 2021. Rydyn ni’n cefnogi’r targed presennol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac agenda ehangach ‘mwy na miliwn’. Byddwn ni:

  • Yn codi statws Prosiect 2050 (uned bresennol y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru) fel rhan o adran iaith gyflawn sy’n gyfrifol am arwaith strategaeth adfer yr iaith.
  • Yn sefydlu uned newydd yn y llywodraeth, gan groesawu arbenigedd allanol i fanteisio ar arloesedd gwyddor ymddygiad i wneud defnydd effeithiol o fentrau rheoleiddiol, polisi ac eraill i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
  • Yn archwilio’r achos dros sefydlu Asiantaeth y Gymraeg hyd braich yn y dyfodol.
  • Yn ymestyn cylch gwaith Comisiynydd y Gymraeg, ynghyd â grymoedd a dyletswyddau rheoleiddiol, i feysydd ychwanegol, gan gynnwys y sector preifat a Chynllunio Gwlad a Thref.
  • Yn gweithredu amserlen ar gyfer paratoi a chyflwyno rheoliadau i ehangu Safonau’r Gymraeg i’r holl gyrff a’r sectorau sy’n weddill sydd wedi’u cynnwys ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i roi sbardun a momentwm newydd i’r gwaith pwysig hwn.
  • Yn ymestyn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn meithrin gweithlu dwyieithog drwy ddarparu cyllid newydd sylweddol ar gyfer Cymraeg i Oedolion, drwy ryddhau athrawon a gofalwyr o’u gwaith i ddysgu neu i wella eu Cymraeg; cefnogi rhieni sy’n dymuno gwneud Cymraeg yn iaith y cartref; a galluogi pobl sy’n symud i Gymru i ddysgu’r iaith.
  • Yn creu 1,000 o weithleoedd cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys tair adran yn Llywodraeth Cymru.
  • Yn integreiddio gwaith y Mentrau Iaith a’r Canolfannau Iaith, ac yn gosod mandad ‘mwy na miliwn’ newydd iddyn nhw i rwydweithio’r gymuned Gymraeg, i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ar lefel leol, ac i weithio gydag ysgolion Cymraeg, yr Urdd, Clybiau Ffermwyr Ifanc, a sefydliadau eraill.
  • Yn sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg fel rhan o strategaeth ddigidol newydd ar gyfer yr iaith ar y cyd ag eraill.
  • Yn sicrhau bod y gwariant ychwanegol ar gyfer gwireddu Prosiect 2050 wedi’i nodi’n glir yng nghyllideb gyntaf Llywodraeth Plaid Cymru, gyda’r nod o gynyddu buddsoddiad i hyrwyddo’r iaith i lefelau tebyg i Wlad y Basg yn ystod tymor y Senedd.

Y Gymraeg: darllen mwy