Y Gymraeg yn y gwaith

Rydyn ni am annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Byddwn ni’n gweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i sefydlu rhaglen hyfforddi’r gweithlu a fydd yn darparu hyfforddiant a chyrsiau trochi Cymraeg strwythuredig, gan gynnwys cefnogaeth ariannol i ryddhau gweithwyr i ddysgu Cymraeg a gwella eu sgiliau iaith.

Byddwn ni’n darparu cymorth, cymhellion, a chyngor i entrepreneuriaid a busnesau sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg, fel bod modd iddynt ddatblygu eu model busnes dwyieithog. Byddwn ni’n gweithio gyda busnesau bach a chanolig ledled Cymru i ddatblygu llefydd ar brentisiaethau yn Gymraeg a byddwn ni hefyd yn ehangu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gweinyddiaeth mewn llywodraeth leol, cyrff wedi’u hariannu’n gyhoeddus, a’r sector cyhoeddus ehangach.

Y Gymraeg: darllen mwy