Mewn etholiadau i'r Senedd (Senedd Cymru) mae gennych ddwy bleidlais:

1. I ethol eich Aelod etholaethol lleol o'r Senedd
2. I ethol eich Aelodau Rhanbarthol o'r Senedd

Mae pob etholaeth yn dychwelyd 1 Aelod o'r Senedd - wedi'i ethol dan system ‘y cyntaf i'r felin’.

Mae pob rhanbarth yn ethol 4 Aelod o restr plaid wleidyddol - wedi'u hethol gan y System Aelodau Ychwanegol (AMS).

Mae'r AMS yn cyflwyno elfen o gynrychiolaeth gyfrannol i'r etholiad wrth iddo gael ei gyfrif trwy'r dull D’Hondt. Yn gryno, po fwyaf o seddi etholaethol y mae plaid yn eu hennill, y lleiaf o seddi rhanbarthol y gall y blaid honno eu hennill.

Felly, yn Rhanbarth Gogledd Cymru, sy'n cynnwys siroedd Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, tydi'r blaid Lafur erioed wedi ennill sedd ranbarthol - dim un sedd ers creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ôl ym 1999. (Gweler y grid o ganlyniadau'r etholiadau rhanbarthol isod)

GC_website.png

Yn yr ardal hon, mae'r etholiad rhanbarthol yn amlach na pheidio yn frwydr rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr, a phan glywch bobl yn dweud “peidiwch â gwastraffu'ch ail bleidlais” maen nhw'n dweud na fyddai pleidleisio Llafur ar y bleidlais ranbarthol o help i ethol cynrychiolwyr Llafur.

Ni waeth sut rydych chi'n pleidleisio yn eich etholaeth leol, bydd cefnogi Plaid Cymru ar y Bleidlais Ranbarthol (eich ail bleidlais) yn helpu i ethol mwy o gynrychiolwyr Plaid Cymru ac yn helpu i atal y Torïaid.

Wedi'ch argyhoeddi? Beth am roi gwybod i ni eich bod chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru y tro hwn?