Clwb 500
Yn swyddogol ‘loteri fach’ yw'r Clwb 500, lle mae 51% o’r holl incwm yn cael ei roi allan fel gwobrau, gyda’r gweddill yn mynd tuag at helpu ymgyrchoedd etholiadol Plaid Cymru. Mae’n ffordd wych o gefnogi Plaid Cymru ac ar yr un pryd yn rhoi’r cyfle i chi ennill cannoedd o bunnoedd mewn gwobrau bob blwyddyn.
£5 y mis yw’r gost (nid oes angen bod yn aelod swyddogol o Blaid Cymru), a bydd pob aelod o’r Clwb yn derbyn un rhif ar gyfer pob £5.00 sy’n cael ei roi mewn raffl fisol. Bydd enillwyr yn cael eu hysbysu trwy lythyr - ynghyd â’u gwobr ac yn ymddangos yng nghylchlythyr y Blaid.
Cwblhewch y ffurflen isod a’i dychwelyd at Bencadlys Plaid Cymru i ymuno â’r Clwb nawr.