Mae gan Blaid Cymru dri Aelod Seneddol sydd yn brwydro dros fuddiannau Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin - ar ben eu record ardderchog o gynrychioli eu hetholwyr - ac un aelod yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Liz Saville Roberts - Dwyfor Meirionnydd
Ben Lake - Ceredigion
Hywel Williams - Arfon
Yr Arglwydd Dafydd Wigley


Tŷ'r Cyffredin


Liz Saville Roberts

Liz Saville Roberts AS

Arweinydd Seneddol 

Etholaeth: Dwyfor Meirionnydd

Portffolio: Materion Cartref, Cyfiawnder, Menywod a Chydraddoldeb, Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol

Cafodd Liz Saville Roberts ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd ym mis Mai 2015, y fenyw gyntaf i gynrychioli’r etholaeth ac Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Plaid Cymru. Cyn hynny bu’n gweithio fel gohebydd newyddion yn Llundain a Gogledd Cymru, ac yna fel darlithydd Addysg Bellach gyda Choleg Meirion Dwyfor, lle datblygodd addysg Gymraeg.

Roedd yn gynghorydd sir yng Ngwynedd rhwng 2004 a 2015, yn cynrychioli Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn. Yn wreiddiol o Eltham, Llundain, dysgodd Liz Gymraeg tra yn y brifysgol yn Aberystwyth. Mae Liz yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig.

Mae hi wedi byw yn Morfa Nefyn gyda’i gŵr Dewi ers 1993 ac mae ganddynt ddwy ferch, Lowri a Lisa. Yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau marchogaeth a cherdded. Mae hi’n hoff iawn o anifeiliaid ac yn berchen ar ddau geffyl, Titch ac Espi, dau gi a gafr.

Facebook  Twitter  Instagram  Ebost

i'r brig


Ben Lake

Ben Lake AS

Etholaeth: Ceredigion

Portffolio: Addysg a Sgiliau, Iechyd, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Materion Cyfansoddiadol a Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Etholwyd Ben Lake fel Aelod Seneddol Ceredigion ym mis Mehefin 2017. Fe yw’r person ieuengaf i gynrychioli’r etholaeth ac AS ieuengaf Plaid Cymru. Fe fu’n gweithio’n gynt i Elin Jones, Aelod Cynulliad yr etholaeth, ac fel ymchwilydd i Blaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cafodd Ben ei eni a’i fagu yn Llanbedr Pont Steffan. Mynychodd Ysgol Gyfun Llambed, cyn astudio Hanes ym Mhrifysgol Rhydychen, lle bu'n mwynhau chwarae Rygbi a Chriced.

Mae Ben yn mynd i San Steffan gyda dealltwriaeth o anghenion Ceredigion yn y trafodaethau Brexit sydd i ddod. Teimlai’n gryf dros sicrhau ffyniant economi ei etholaeth, gan gynnwys ei phrifysgolion a’i ffermydd, ac mae e’n awyddus i sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed yn glir.

Gwefan  Facebook  Twitter  Instagram  Ebost

i'r brig


Hywel Williams

Hywel Williams

Etholaeth: Arfon

Portffolio: Brexit, Masnach Ryngwladol, Gwaith a Phensiynau, Swyddfa’r Cabinet

Ganed Hywel ym Mhwllheli ym 1953 a derbyniodd ei addysg ym Mhwllheli a Phrifysgol Cymru (Bangor a Chaerdydd).

Cyn ei ethol yn AS yn 2001, gweithiodd Hywel fel darlithydd, ymgynghorydd ac awdur ar ei liwt ei hun mewn gwaith cymdeithasol a pholisi cymdeithasol, yn ogystal ag fel Rheolwr Prosiect i Gofal Cymru.

Mae gan Hywel ddiddordeb mawr mewn materion Cwrdaidd a'r iaith Gwrdaidd, ac mae wedi siarad mewn nifer o ralïau a digwyddiadau i gefnogi Cwrdistan.

Ei brif ddiddordebau gwleidyddol yw polisi cymdeithasol, diwylliant / iaith a'r celfyddydau, a bu'n flaenllaw yn gwrthwynebu diwygiadau lles y pleidiau Llundeinig.

Mae'n mwynhau darllen a cherdded.

Gwefan  Facebook  Twitter  Instagram  Ebost

i'r brig


Tŷ'r Arglwyddi


Yr Arglwydd Dafydd Wigley

Yr Arglwydd Dafydd WigleyMae gan Dafydd Wigley sedd yn Dŷ’r Arglwyddi dros Blaid Cymru. Ef yw llais Cymru yn uwch siambr San Steffan ac mae'n gweithio'n agos gyda'n Haelodau Seneddol.

Cafodd Dafydd Wigley ei eni yn Derby, Lloegr. Mynychodd Ysgol Ramadeg Caernarfon ac Ysgol Rydal cyn astudio ym Mhrifysgol Victoria, Manceinion, a hyfforddi fel cyfrifydd. Gweithiodd i'r cwmni Hoover fel Rheolydd Ariannol cyn iddo ddod yn Aelod Seneddol yn 1974.

Daeth Dafydd Wigley yn Llywydd ar Blaid Cymru yn gyntaf yn 1981. Fe'i etholwyd i gynrychioli etholaeth Caernarfon yn etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999, ble arweiniodd y blaid i ganlyniad arbennig yn yr etholiad.

Ar ôl gyrfa hir yn gwasanaethu Cymru ar bob lefel wleidyddol, mae Dafydd Wigley yn parhau yn wleidydd sydd yn hawlio parch enfawr trwy Gymru, ac yn parhau i weithio'n ddiflino dros ein gwlad.

Twitter  Ebost

i'r brig